Sidor som bilder
PDF
ePub

dychryn. Dichon i'r yspryd hwn achosi cyf-symydd ac ysgrifenydd. newidiadau o bwys, ac achlysuro chwyrnddadymchweliadau, ond dygir y gwirionedd i'r golwg yn fwy amlwg ganddo, a theimlir ei ysprydolrwydd yn effeithio yn fwy cadarn beunydd. Yspryd marwaidd a swrth yw y mwyaf peryglus mewn eglwys a gwlad; dilynir hwn yn anocheladwy gan drancedig

aeth rhinwedd.

Y mae y ddadl rhwng eglwyswyr ac ym. neillduwyr yn ddadl o bwys, yn cynnwys yr egwyddorion teilyngaf o sylw, ac yn haeddiannol o ystyriaeth ddifrifolaf pawb o drigolion ein gwlad. Y mae helyntion y blynyddau diweddaf wedi achosi adnewyddiad o'r ddadl hon yn Lloegr i raddau o fywiogrwydd anghyffredinol, ac y mae'r wasg beunydd yn esgor ar ryw gyfansoddiadau yn dal perthyn. as ar naill ochr neu'r llall. Cyrhaeddodd yr yspryd hwn hefyd i ein gwlad ninau i raddau, ac y mae trigyddion Cymmru yn dechreu ymgynhyrfu i ddeall cyfansoddiad yr eglwys wladol, ac i amgyffred seiliau ymneillduaeth. Ni ddylid gofidio eithr yn hytrach llawenhau oblegyd hyn: pa fanylaf y chwilir i ansawdd teyrnas Crist fel ei datguddir yn y Gair, mwyaf eglur y canfyddir ysprydolrwydd y gwirionedd, a mwyaf trwyadl y ffieiddir gormes a defodau dynol.

Hyspys yw i lawer fod Mr. Thomas Hughes, o Ruthyn, er ys amser yn ol wedi cyfieithu a chyhoeddi llaw-draethodyn, yn cynnwys "12 o resymau paham y dylai pob Esgob o eiddo Eglwys Loegr, gael ei ddarostwng i sefyllfa Bugail Cristionogol, &c." Syrthiodd y traethodyn hwn i ddwylaw y Parch, J. Jones, Archdiacon Meirionydd, ffromodd yspryd y boneddwr, ennynodd tân ynddo, ac efe a ysgrifenodd a'i law, " Ffrewyll i gorgi, am gyfarth ei well." Ni frawychwyd Mr. T. Hughes gan yr ymosodiad Archddiaconaidd hwn, eithr efe heb betruso a gyhoeddodd eilwaith "Cwymp dagon o flaen yr arch, sef sylwadau ar lygredigaethau yr Eglwys Sefydledig, &c." Y Parchedig Archddiacon er yn glwyfus iawn, a anturiodd drachefn i gasglu ei anadl ato unwaith cyn marw, i'r dyben o ysgrifenu ei last words and dying speech, mewn llyfr a elwir "Gair o ymddiffyn yn achos yr Eglwys Esgobawl sefydledig 'Nghymmru," ac mewn attebiad i hwn yr ysgrifenwyd drachefn y Drych Cywir."

66

Fel y byddo chwareu teg yn cael ei wneuthur â'r ddwy ochr, dymunol fyddai i bawb a allont, feddiannu yr oll o'r gwrthysgrifau crybwylledig, manol chwilio eu rhesymau, pwyso eu haeriadau yn nghlorian y gwirionedd, a chwilio yn bwyllog a diduedd pa un o honynt a lefara gyssonaf â'r Gair Dwyfol. Os gwneir hyn, nid rhaid ofni haeru y trŷ y fantol o blaid awdwr y "DRYCH CYWIR," ac yr ymddengys yr Archddiacon yn holl waeledd ei dylodi fel rhe

[ocr errors]

Cynnwysa y "DRYCH CYWIR" rag-draethawd yn dynoethi dichell ystrywgar rhyw gre. adur penwan i ddangos "Gelyniaeth at yr ymneillduwyr "--ac hefyd annerchiad grymus a hyawdl o waith yr awdwr at ei gydwladwyr. Nis gallaf ymattal rhag dyfynu rhan o'r annerchiad.

Tu dal. X. " Dylai pob ymneillduwr ag sydd yn credu yn gydwybodol ac yn cofleid. io yr egwyddorion a ymddiffynir yn y Traethawd hwn, sefyll yn hŷ yn ngwyneb pob un a'u gwrthwyneba, pa un bynag fyddo ai cyf. oethog ai tylawd, gan adael ei amgylchiadau bydol ar law Rhagluniaeth y Goruchaf. Y mae gormod o duedd ynom i weneithio i wyr mawr, ac aberthu ein cydwybodau er mwyn eu boddio, a thrwy hyny yn darostwng ein hunain is law dynion. Y mae yn ddiammeu y dylai fod genym "barch i'r hwn y mae parch yn ddyledus," pa un bynag fyddo ai brenin ai cardottyn; ond ni ddylai neb o honom anmharchu ei hun mewn ystyr foesol er mwyn parchu ereill mewn ystyr dymhorol. Y mae yr ymddygiad hyny yn wrthryfel yn erbyn pob diwygiad gwladol, eglwysig a theuluol."

Dylai pob ymneillduwr claear a diofal o barth egwyddorion, ystyried, cywilyddio, edifarhau, a diwygio, pan y darlleno y frawddeg uchod. Nid oes neb yn fwy o rwystr i lwydd ymneillduaeth na'r dynion hyny a gymerant arnynt eu bod yn ymneill duo; ond etto ofn neu gywilydd arnynt i arddel eu hegwyddorion yn wrol a chyhoedd.

us.

Y rhai hyn bob amser sydd barod i waeddi, "Gwell yw bod yn dawel a gadael pob peth yn llonydd-y ffordd oreu ydyw ceisio byw yn dduwiol heb ddadlu &c." Gwnai y dynion yma babyddion rhagorol. Gwel pawb ystyriol nad yw'r ymadroddion hyn a'u cyffelyb ond cochl i orchuddio gwendid, diogi ac anwybodaeth. Rhaid i bawb weithredu oddiar ryw egwyddorion cyn y gall ei weithrediadau atteb un dyben defnyddiol. Nid addas yw dilyn unrhyw blaid o grefyddwyr o herwydd mai hwy yw y mwyaf cyfleus ini, y mwyaf lliosog yn ein cymmydogaeth, ein rhieni o'n blaen wedi bod gyda hwynt, a chyda hwynt y magwyd ninau, &c. Ymadroddion o'r natur hyn ydynt dueddol i ddarostwng dyn i fod yn wrthddrych gwawd, dirmyg, a thosturi dynion call a chydwybodol.

Y "DRYCH CYWIR" hefyd a gynnwysa 5 o ddosbarthau fel y canlyn: dosbarth I, Mai eglwysi gwirfoddol, cynnulleidfäol, ac nid sefydledig a gwladol oedd eglwysi Crist, &c. Dosbarth II. Fod eglwysi sefydledig gwladol yn ddinystr i ryddyd cydwybod &c. Dosbarth III. Mai dau fath o swyddwyr parhaus a ordeiniwyd i fod yn yr eglwysi cristionogo! &c. Dosbarth IV. Mai yr eglwysi sydd i ddewis eu gweinidogion. Dosbarth V. Ar gynhaliaeth gweinidogion yr Efengyl. Di

bynir y cwbl mewn sylwadau ar ffurf gweinyddol yr ordinhad o Fedydd yn Eglwys Loegr, ac hefyd ar ffurf gwasanaeth y claddedigaeth yn Eglwys Loegr.

Yn nhu dal. 29, y dywed yr awdwr, "Pe byddai i'r Eglwyswyr adeiladu en lleoedd o addoliad, cynnal eu gweinidogion, dwyn yr holl drauliadau sydd yn nglŷn â'u ffurf o addoliad, a rhoddi cyflawn ryddid crefyddol i'r Ymneillduwyr, yna ni byddai gan neb achos i gwynfan fod Eglwys Loegr yn eu gorthrymu. Pa fodd y byddai i'r Eglwys wyr yndeimlo, pe gosodid gorfodaeth arnynt hwy i gynnal achos yr Ymneillduwyr yn groes i'w cydwybodau? Ni theimlent mae yu ddiammeu yr iau yn esmwyth na'r baich yn ysgafn."

yn

crefydd Crist, ac y dylid ei chynnal trwy gyf raniadau gwirfoddol ei ddysgyblion; profa mai Annibyniaeth ydyw trefn Eglwysigy Testament Newydd ;-a gesyd tu hwnt i ammheuaeth mai Crist yw unig Ben yr Eglwys.

Cynghoraf i bob Eglwyswr, Ymueillduwr, a Threfnydd, ei brynu, a'i ddarllen gyda'r pwyll a'r ystyriaeth mwyaf. Y mae yn cynnwys ynddo yr egwyddorion mwyaf pwysig, wedi eu hysgrifenu yn rymus, hyawdl, a threfnus; ac ni ddylai neb dynion a chwennychant feddiannu gwybodaeth am natur, cyfansoddiad, dysgyblaeth, a llywodraeth Eglwys Crist fod hebddo. Gan mai ychydig o lyfrau sydd yn yr iaith Omeraeg ar y pyngciau hyn, gwarth Ymneillduwyr fydd iddynt beidio cefnogi yr awdwr, trwy dder| byn, darllen, a gwneuthur yr oll a allont i "DRYCH CYWIR fedrus yr daenu y yn eu gwahanol gylchoedd.*

Ni atebai yr un dyben imi ddyfynu ychwaneg. Trinia yr awdwr haeriad ffôl fod Duw yn sefydliad yr oruchwyliaeth luddewig wedi cymmeradwyo yr egwyddor o sefydlu crefydd trwy gyfraith: dadleua yn rymus o blaid rhyddid cydwybod, a chyfrifoldeb dyn i Dduw yn unig am ei olygiadau crefyddol; dengys yn eglur mai crefydd wirfoddol, ac nid dreisiol ydyw

YMNEILLDUWr.

* Gellir cael y llyfr uchod gan ddosparthwyr Esponiad y Parch. J. Hughes, ar y Testament Newydd, yn ngwahanol barthau Cymmru,

Y CANIBDYDD.

Deongliad i Ddychymyg Mr. T. Mwyndeg,
am y Prophwyd rhyfeddol, &c.

O dirion Mr. Mwyndeg,
Ymofyn wneist yn glau,
Oedd neb a wyddai'n unlle
Am achau'r Prophwyd tau,
A roi ar goedd ei enw,
Ei achau ef a'i oed,
Anturiaf fi dy ateb

Er mwyn dy 'uchel glod.'
Er cyn poblogi Eden

Gan ein rhieni draw,
Y CEILIOG a'i arwyrain
Brophwydai'r dydd gerllaw;
Ac wedyn gyda Noah

Yn glyd o fewn yr arch,
Pregethai forau godi,

A dirfawr oedd ei barch.
Pan drosom ni'n druenus
Dioddefai Iesu cu,
Yn agos yn alarus

Grochlefain hwn a fu.
A phan yn ei ofidiau
Y gwadai Pedr Grist,
Y ceiliog a bregethai

Nes iddo wylo'n drist.

Nid rhyw grwydredig Juddew,
Ac nid hen Lefiad yw,
Nid yw yn fab i Noah,

U

Boreuach yw ei ryw.

Ni adnabu ei rieni

Ni sugnodd fronau 'i fam,
Ar ei ben coch ni wisga

Byth het, hawdd d'wedyd p'am.
Yn droeduoeth hefyd rhodia,

Ac byth ni chwennych win,
Na gwirod chwaith na chwrw,
Ond dwfr i wlychu'i fin,
Pe rhoddech iddo arian,

Hwn a'u dirmygai 'n llwyr,
Am rwysg a gwagedd bydol
Y Prophwyd syml ni wyr.
Gwell ganddo mewn ysgubor
Giniawa gyda'r ieir,
Nac wrth fwrdd y Pendefig,
Ar seigiau goreu geir.
Er nad yw'n cario gwialen,
Na ffon, na chleddyf llym,
A'i big â'i draed â'i adain

Ymladda i eitha'i rym.
A chymaint yw ei yspryd,
Nes mae drygionus rai,
Er mwyn eu ciaidd bleser,
'N ei ddwyn i fythol ffrae.
Rhag iddo gysgu gormod

Ni orwedd byth i lawr,
Saif ar ei draed yn barod
I rodio gyda'r wawr.

Ac yna ymestyna

Ei wddf, a gwaedda'n glau,

[ocr errors][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small]

Detholion doethion a da,
Yn gain-iesin gynnwysa:`
Amrywiaeth helaeth o hyd,
A gwir hufen, geir hefyd:
Od roddion daearyddol,
Ac anian garia'n ei gol.
I mewn a ỳr holion mâd,
Tybiwyf caent lawn atebiad.
Cu nodau y Caniedydd,
I bawb mal ryw ermig bydd;
Yn geinaidd hwn a gana,
Nos a dydd ail eaws da.

Pery'n gydymmaith puraidd,-eres-gwiw
I'r Ysgol Sabbathawl;

Am ei llês mae â'i oll aidd
Wrthi mewn ymdrech iorthaidd.
Ca'r tywyll e'n ganwyll gu,
I gerdded ei lwybr gorddu,
Rhag iddo syrthio yn san
Hyll dro, i faw-bwll druan;
A'r doethion mwynion a'i medd,
Rai enwog, profant rinwedd,
Yr un modd, o ran eu maeth,
O'i haelion faesydd helaeth.
Dysgl i bawb, rwy'n disgwyl bydd,
Ar eurawg fwrdd Cyn'weirydd;
Gwinoedd llaeth i'r gwanaidd llon,

A cry' fwyd i'r rhai cryfion:

I bawb mae'n arlwy bob mis,
Syw hael-bryd am isel.bris;
Dyry lawn-wledd fwynedd, fawg,

'N haeledd, gwybodaeth hoywlan-o rinwedd Iach ini, am chwe cheiniawg!

Gyfrana yn mhob-man;

Gweled ei wyneb gwiwlan,
Bo'm yn mhob tre,' lle a llan.

Yr iaith enwog Frythonaidd-a firain
Lefara yn hyawdlaidd ;

I'n bro 'does Gyhoeddiad, braidd,
Yn tori iaith mwy teraidd..

[blocks in formation]
[blocks in formation]

YR HANESYDD.

BUCHDRAETH YR ANGHYDFFURF

WYR.

Y PARCH. WILLIAM JENKYN, M. A. Ei daid ydoedd yn perchen etifeddiaeth deg, yn Folkstone, ac efe a anfonodd ei fab henaf, tad y Mr. Jenkyn yma, i'r Athrofa i Gaergrawnt, gan ddysgwyl y cyrhaeddai ryw ddyrchafiad a bri yn yr Eglwys Sefydledig: ond yno efe a ddygwyddodd fyned i wrando Mr. Perkins, gweinidogaeth yr hwn a fu o fendith fawr iddo; ac efe a ymunodd a'r Puritaniaid. Pan ddeallodd ei dad ef hyny ar ei ddychweliad adref, gan nad oedd efe yn hoff o'r Puritaniaid, efe a welodd yn dda ei ddifeddiannu ef o'r rhan fwyaf o'r etifeddiaeth: a phan welodd yntau nad oedd ei gyfeillach yn ddymunol gan ei dad, efe a ymsymudodd at Mr. Rogers o Wethersfield, hen weinidog Puritanaidd, ac a ymroddes i fyfyrio gyd a'r diwydrwydd mwyaf, hyd oni ordeiniwyd ef, ac ef a sefydlwyd yn weinidog Sudbury, yn Suffolk, lle y bu yn fuddiol neillduol i laweroedd drwy bregethu, holwyddori, ac addurno y cwbl âg ymarweddiad sanctaidd.

Efe a briododd wyres i Mr. John Rogers, (y cynferthyr yn nyddiau gwaedlyd Mair) yr hon a esgorodd ar y gwr parchedig sydd yn destyn y cofiant hwn, yn Sudbury, yn y flwyddyn 1612.

a alwyd oddi yno i Kithe, ger Colchester, yn Essex, lle y priododd efe y waith gyntaf. Ond afiechyd y lle hwnw, a thaerni ei gyfeillion yn Llundain, a barodd iddo ddychwelyd yn ol i'r ddinas, oddeutu 1641, Hle y dewiswyd ef yn weinidog Christ's Church, ac yn mhen rhai misoedd wedi hyn yn ddarlithiwr St. Anne, Black-friars. Efe a barhaodd i lanw y sefyllfa ddwbl hon gyda diwydrwydd a chymeradwyaeth mawr hyd oni ddinystr. iwyd y freniniaeth, pan y gommeddodd efe sylwi ar orchymyn y Senedd i gadw diolchgarwch cyhoeddus ar yr achlysur; o herwydd pa ham yr attaliwyd ef o'r weinidogaeth; a'i fywioliaeth yn Christ Church a roddwyd mewn llaw arall; a hyn a'i tueddodd ef i ymneillduo i Billericay yn Essex.

Ar ei ddychweliad i Lundain yn mhen chwe' mis, efe a fwriwyd i garchar y Twr, dan gyhuddiad o'i fod yn dwyn perthynas a'r hyn a alwent "Bradwriaeth Love:" ond yn fuan efe a ryddhäwyd o'r carchar, ac oddi tan yr orfodogaeth ddirwyol a roisid ar ei fywioliaeth eglwysig: ond gan fod y llywodraeth wedi gosod un Mr. Feake yn weinidog Christ Church, pan osodasid Mr. Jenkyn dan orfodogaeth, ni thybiodd efe yn addas wneuthur defnydd o'r rhyddhâd olaf a nodwyd, i fwrw hwnw allan.

Ond ei blwyfolion oeddynt mor awyddus am fwynhau ei ddawn ef, fel y sefydlasant ddarlith am 7 o'r gloch boreuau Sabbath iddo, ac y cyfodasant gydroddiad helaeth at ei gynnal.

Parhäodd gyd a'r ddarlith hon a'r un yn Black friars hyd farwolaeth Dr. Gouge, pan ddewiswyd ef yn fugail yr eglwys hono: ac yn mhen amser, gau i Mr. Feake fyned yn wrthddrych ffiaidd gan y llywodraeth, efe a symmudwyd o Christ Church, ac ail gyflwyn." wyd y fywioliaeth i Mr. Jenkyn; lle y preg ethai yn llafurus foreu a hwyr, i gynnulleid fäoedd lluosog a llwydd mawr yn dilyn ei weinidogaath.

Bu ei dad farw pan oedd yn dra ieuanc; ac yn yr adeg hono, ymddangosai ei daid crybwylledig uchod, wedi tyneru yn ddirfawr ar farwolaeth ei fab, ac efe a anfonodd am ei wyr hwn atto, gan addaw gofalu am ei ddysgeidiaeth a'i ddygiad ef i fynu; ac efe a fu fyw gyd a'i daid nes oedd yn naw mlwydd oed, yn gu ac anwyl ganddo: ond ei fam gan ofni yn fawr nad oedd yn mwynhan nemawr o ddysgeidiaeth grefyddol yno, a anfonodd am dano adref, er anfoddlonrwydd mawr i'r Yr oedd yn dra gochelgar rhag cyffwrdd hen wr; a bu hi a'i hail wr, yn ofalus iawn â dim a allai roddi tramgwydd i'r llywodr am ei hyfforddi ef mewn ymarferiad difrifol aeth, gan y gwyddai fod cynnifer o lygaid o ordinhadau crefyddol. Cynnyddai yn dra arno ef; ac efe a ymroddodd yn hollol i chyflym yn ei ddysgeidiaeth, a phan oedd bregethu Crist, a hwnw wedi ei groeshoelio. yu 14 mlwydd oed, efe a anfonwyd i Gaer- A chyd a'r gorchwyl yma, efe a fu rai blyngrawnt, ac a roddwyd dan ofal Mr. A. Bur- yddoedd yn pregethu ar yr enwau a roddir gess. Erlyniai ei efrydiau gyda llwyddiant ar Grist yn yr Ysgrythyrau; ac efe a bregmawr, ac yr oedd ei gynnydd mewn duwiol-ethodd ar holl epistol Judas, yr hwn hefyd a deb mor amlwg âg oedd mewn dysgeidiaeth. argraffodd efe wedi hyuy. Dyfal geisid ei gymdeithas gan rai o ffraethwyr ieuaine y brif Athrofa, oblegyd ei athrylith fywiog: ond pan ganfyddodd efe eu tuedd wammal, efe a ochelodd eu cyfeill

ach.

Yn fuan ar ol iddo wneuthur ei ymddangosiad fel gwr cyhoeddus, efe a ddewiswyd yn ddarlithiwr St. Nicholas Acons, Llundain, ac

Nis gallai ymfoddloni i beidio pregethu ar ddyfodiad Gweithred yr unffurfiad i rym; ond efe a bregethai yn anghyhoedd pan gaffai gyfleusdra wedi hyny. Ar ddyfodiad Gweithred Rhydychain i rỳm, gan na allai gymeryd y llw, efe a ymneillduodd i'w dŷ ei hun, lle y pregethodd bob Sabbath, a thrwy ddaionus ragluniaeth Duw, ni chyfarfyddo.d

a nemawr aflonyddwch yno. Ar y goddefiad, yn 1672, efe a ddychwelodd i Lundain, lle yr adeiladwyd addoldy newydd iddo yn heol Jewin. Efe a gasglodd gynnulleidfa luosawg yn nghyd yno yn fuan, ac a ddewiswyd yn ddarlithiwr yn Pinner's hall: ac ar ol galw y goddefiad yn ol, cyd-ddygwyd âg ef yn y fath fodd, fel na aflonyddwyd ar ei ymarferion Sabbathawl ef, hyd onid ymdòrodd y dymmestl fawr yn erbyn yr aughydffurfwyr yn y flwyddyn 1682. Ac yna efe a barhäodd i bregethu o fan i fan, lle y gallai yn ddirgel, ac o gyrhaedd ei gyhuddwyr drygionus: ond o'r diwedd, Medi 2il. 1684; fel yr oedd efe yn nghyfeillach Mr. Reynolds, Mr. John Flavel, a Mr. Keeling, yn treulio y dydd mewn gweddi gyda llawer o'i gyfeillfon, mewn lle y ty bient eu bod allan o berygl, daeth y milwyr am eu penau pan oeddynt - yn nghanol y gwasanaeth; eithr diangodd yr holl weinidogion oddieithr Mr. Jenkyn.

Yr oedd Mr. Flavel mor agos, fel y clywai y traha a'r hwn y trinid Mr. Jenkyn gan y swyddwyr a'r milwyr, pan ei daliasant ef: ac efe a sylwai yn ei ddyddlyfr y gallasai Mr.J. ddianc cyn gystal ag yntau, oni bai iddo drwy ormod moesgarwch, aros i ryw foneddiges fyned o'i flaen ef, godrau llaes yr hon a'i rhwystrodd i ddïanc i lawr y grisiau.

Wedi ei ddwyn ef o flaen dau Henadur, Syr James Edwards, a Syr James Smith, hwy a'i triniasant ef yn y modd mwyaf anfoesgar, gan wybod y byddai hyny yn gymeradwy gan rai oeddynt uwch eu hawdurdod. Ar ei waith yn gwrthod cymeryd llw Rhydychain, hwy a archasant ei ddwyn ef i garchar Newgate, a gwrthodasant gymeryd y £40 dirwy (yr hon yr awdurdodid hwy gan y gyfraith i'w chymeryd, yn lle rhoddi carchar ar un) er y dadleuid y byddai i awyr y carchar ei nychu yn sicr.

Efe a anfonodd eirchiad at y brenin i ofyn am ei ryddid, yr hwn a gefnogid gan dystioliaeth ei feddygon, y rhai a dystient fod ei fywyd mewn perygl oddiwrth gaeth-garchariad. Ond nid ellid cael ateb amgenach na hyn "Caiff Jenkyn fod yn garcharor tra fyddo efe byw :" ac ymgadwyd at y penderfyniad hwn yn y modd manylaf, oblegyd ni oddefid iddo fyned i fedyddio plentyn ei ferch, er i swm dirfawr gael ei gynnyg am hyny, yn nghyd a sicrhad am ei ddychweliad i'r carchar yn ol. Archid i'w geidwaid, ei attal i weddio gyda neb o'r rhai a ymwelent âg ef; ac hyd yn nod pan ddaeth ei ferch i ofyn ei fendith, ni chaniateid iddo weddio gyda hi. Ar ei garchariad, dechreu odd gurio yn ei gorph, a gwaelu yn ei iechyd, etto, parhäodd o hyd, i fwynhau dyddanwch a llawenydd enaid.

Dan ei garchariad, ac yn ei gystudd blin, efe a ddywedai wrth un o'i gyfeillion, "O, y fath wahaniaeth mawr, sydd rhwng fy ngharchariad presenol â'm carchariad blaen

orol! Y pryd hwnw yr oeddwn yn llawn. amheuon ac ofnau, o drallod a gofid; a da y gallaswn fod felly, am i mi fyned allan o ffordd Duw, â'm galwedigaeth, i ymyraeth a phethau na pherthynent i mi. Ond yn awr, pan y'm daliwyd ar fordd fy nyledswydd, yn ngwasanaeth fy Meistr, er dioddef hyd rwymau, etto yr ydwyf yn cael fy nyddanu uwchlaw mesur. Mae yr Arglwydd yn tywallt ei gariad yn helaeth yn fy nghalon, yr ydwyf yn ei deimlo, ac yn meddu sicr. wydd o hono."-Yna, gan droi at rai oedd. ynt yn wylo ger llaw iddo, efe a ddywedai, "Pa ham yr wylwch drosof fi? Y mae Crist yn fyw, efe yw fy nghyfaill, cy faill wedi ei eni erbyn caledi, cyfaill na bydd marw byth. Nac wylwch o'm plegyd I, ond wylwch o'ch plegyd eich hunain, ac oblegyd eich plant." Efe a fu farw yn Newgate, Ionawr 19eg. 1685, yn 72 mlwydd oed, wedi bod yn garcharor yno bedwar mis. Pan glybu boneddwr am ei farwolaeth ddedwydd, efe a ddywedodd wrth y brenin, "Rhynged fodd i'ch Mawr. hydi, mae Jenkyn wedi d'od yn rhydd." Ar hyn y brenin a ofynai yn brysur," mae; pwy a'i rhyddhäodd? Atebai y pendefig, "Un mwy na'ch Mawrhydi, Brenin brenin. oedd." Ar hyn yr ymddangosai yn sỳn, ac nid ynganai air.

COFIANT Y GWIR ANRHYDEDDUS
ARGLWYDD TEIGNMOUTH,
LLYWYDD DIWEDDAR Y GYMDEITHAS FIBL-
AIDD FRUTANAIDD A THRAMOR.

Yr hwn a fu farw ddydd Gwener, Chwefror
14eg, 1834, yn 83 mlwydd oed.

Mewn cyfarfod neillduol o Gyfeisteddwyr y Gymdeithas Fiblaidd Frutanaidd a Thra mor, a gynhaliwyd Chwefror 24ain, Y Gwir Anrhydeddus Charles Grant, A. S., yn y Gadair; gwnaed cymeradwyaeth unllais o'r deyrnged ganlynol o barchedigaeth i goffadwriaeth ei Llywydd ardderchog.

Wrth roddi hysbysiad i'r Gymdeithas yn gyffredinol, am ei cholled o'i Llywydd hybarchus a chariadus, mae y Cyfeisteddwyr fwyaf gofidus eu galwyd atti eto. yn teimlo eu bod yn cyflawni y ddyledswydd

Er hyny, yn yr adeg drallodus hon, nid allant lai nac offrymu teyrnged o glod i Ragluniaeth Ddwyfol, yr hon o'r dechreuad a osododd Arglwydd Teigumouth ar ben y Gymdeithas, ac a'i cyfnerthodd i lywyddu drosti, am yspaid deng mlynedd ar hugain o

amser.

Nid diwerth i'r Gymdeithas oedd gradd, a sefyllfa ei Arglwyddiaeth yn y byd, yn enw. edig yn ngwendid ei mebyd; ond nid oedd,

« FöregåendeFortsätt »