Sidor som bilder
PDF
ePub

mai y gegin ydoedd, a bụ agos i'r agerdd tew a'i llanwai fy llethu. Yr oedd tuag un o'r gloch brydnhawn, ac yr oeddys yn prysur barotöi lluniaeth i ddeunaw cant o drueiniaid newynog, i'r rhai y darparid y cyfryw gymmysg yn ymborth, na fwriesid i gafn mochyn yn Lloegr. Yr oedd certwyn newydd gyrhaedd yno yn llwythog o weddillion a gasglid o'r tafarnau a theiau eraill yn Nulyn; yn gynnwysedig o esgyrn pysgod ac anifeiliaid, a briwion o gig wedi darn lygru, yn nghyd a bresych a llysiau eraill a ferwasid er ys dyddiau o'r blaen, ac oeddynt yn awr yn arogli yn annioddefol. Wedi gwneyd ychydig ddetholiad o gynnwys y gertwyn, bwrid hwynt i beiriau mawrion, i'w cydferwi yn gymmysgedig â thunnellau o gloron. Aethum ymaith o'r gegin i'r rhan o'r tŷ lle yr oedd y begeriaid benywaidd, ac yno y gwelwn tua thri chant o honynt, o bob rhyw oedran o bymtheg hyd bedwar ugain oed, yn eistedd ar y llawr, yn grynedig gan yr oerfel, ac oddeutu yr un nifer mewn ystafell arall. Gwelais yn mysg y benywaid hyn, amrai wragedd a'u babanod yn crogi wrth eu bronau, gwedd y rhai a dystient eu bod yn gyfranogion o drueni eu mamau; ac ar y llaw arall, gwelwn yr hen wyr wrthynt eu hunain. Y rhai oll a allant weithio o'r rhai hyn, pa un bynag ai gwrywaidd ai benywaidd, ydynt yn cael eu gosod i falu cerig ar y ffyrdd, a'r meibion ydynt yn ennill tua ls. Sc. yn yr wythnos gyda'r gwaith hwn, o'r hyn y mae chwe' cheiniog i'w dynu allan, fel cyfraniad at y drysorfa er darparu yr ymborth a grybwyllais: a'r merched a ennillant 1s. 2c., o'r hyn y mae chwe' cheiniog yn cael ei dỳnu allan at yr un amcan.

Mae yn perthyn i'r sefydliad ddwy ysgol fenywaidd, y rhai ydynt yn teilyngu pob cefnogaeth. Nid oes dim llai na thriugain o blant amddifaid yn un o honynt. Mae yr ysgol a gynnwys y dosparth ieuengaf o honynt yn gyfyngedig i ddysgu darllen ac ysgrifenu yn unig, ond y rhai henaf o honynt ydynt yn treulio rhan o'r dydd mewn athrofa diwydrwydd, lle y maent yn cael eu dysgu i ymarfer a gwaith edau a nodwydd; yr hyn a werthir er eu cynnaliaeth. Trwy gyfraniadau gwirfoddol yn unig y cynnelir y sefydliad hwn; ac y mae y draul gan mwyaf yn cael ei ddwyn gan y canol-radd o ddinaswyr Dulyn. Yr oedd y cyfraniadau personol er Ionawr diweddaf yn £5,145, yr hyn nad yw yn agos i ddigon mewn cymhariaeth i'r trueiniaid ydynt yn dysgwyl am gynnaliaeth oddiwrtho. Mae yr holl oedolion yn cael eu troi i'r heolydd y nos, a 6c. yn yr wythnos yn cael ei ganiatâu iddynt tuag at gael rhyw benty (shed) i huno dano.

Dysgwyliais nes daeth yr amser i roddi i bob un o'r deunaw cant ei ran o'r ymborth a ddarluniwyd eisoes; ac yna y gwelwn hen ac ieuanc yn rhuthro i gyfranogi o hono

[blocks in formation]

Llofruddiaeth erchyll yn agos i Northwich; ac ymroddiad y llofrudd.

MAE yn dyfod i'n rhan roddi hanes llofruddiaeth ofnadwy ger bron ein darllenwyr; yr hyn a gyflawnwyd dan yr amgylchiadau canlynol:

Samuel Thorley, garddwr a masnachwr mewn hadau, o Northwich, oedd wedi bod ryw yspaid yn cymdeithasu âg un Mary Pemberton, merch ieuanc tuag un ar hugain oed, yr hon oedd gartref gyd a'i mam weddw, mewn tyddyn yn Leftwich, rhwng Northwich a Davenham.

O fewn tua mis yn ol, cludid rhyw chwedlau annymunol i'r ferch ieuanc a'i mam mewn perthynas i Thorley; megys, fod iddo lawer o blant anghyfreithlawn; nad oedd ei amgylchiadau bydol yn dda ar un cyfrif, ond ei fod yn ddwfn mewn dyled; ac mai ei brif amcan yn ei garwriaeth ydoedd cael eiddo y ferch ieuanc, &c.: yr hyn a fu yn foddion i beri iddynt roddi attalfa ar y gyf eillach; ac mewn canlyniad i hyny ymrodd, odd Thorley i feddwi, a dywedir ei fod yn feddw bron drwy y tair wythnos cyn dydd Gwener y 6ed o Ragfyr diweddaf, pan y cyfarfyddodd â Miss Pemberton yn marchnad Northwich.-Yr oedd hi yn myned adref o'r farchnad rhwng 6 a 7 o'r gloch yr hwyr, ac efe a ymaflai yn ei basged, gan ddywedyd fod yn rhaid iddo ef gael dyfod gyda hi adref; ac efe a aeth gyda hi ran o'r ffordd, pan oddiweddasant chwaer briod i Miss Pemberton; yna efe a'u gadawodd hwynt, a'r ddwy chwaer a aethant yn mlaen eu hunain. Y ferch ieuanc a arhosai ar ei thraed yn hwyr i ddysgwyl ei brawd adref, ac yn mhen ychydig wedi i'w mam a'r teulu fyned i'w gorwedd-leoedd daeth Thorley ac a gurodd wrth y drws, a hithau a agorodd iddo gan ddysgwyl mai ei brawd ydoedd, ac efe a fu yn ymddiddan â hi dros ryw yspaid. Yn y cyfamser, daeth ei brawd adref, a chan ddeall fod rhyw un dieithr yn yr ystafell gyd a'i chwaer, efe a aeth i'w wely heb ymddangos iddynt rhag eu haflonyddu. Tuag unarddeg cychwynai y carcharor i fyned adref, a hithau a'i goleuai i'r drws, a phan oeddynt yn y fynedfa, efe a dynodd ellyn o'i logell, ac a dorodd ei gwddf âg ef; gan dori drwy y rhed-weliau, y chwyth-bib, a gwraidd y tafod yn y modd mwyaf effeithiol: a'i mam, ystafell wely yr hon oedd uwchlaw y fynedfa i'r drws, a frawychwyd wrth glywed twrf cauad y drws yn chwyrn, a rhywbeth tebyg i swn dwfr yn cwympo ar y llawr; a hi a gyfododd i edrych beth oedd yr achos o'r trwst, pan wrth fyned at y drws, y cwymp

odd yn y tywyllwch am draws corph ei merch, yr hon oedd yn ymdrybaeddu yn ei gwaed yn ngafaelion pangfâau marwolaeth: ar hyn y mab a glywai ysgrechiadau ei fam, ac a brysurodd i lawr, ond erbyn hyny yr oedd ei chwaer yn trengu, a'i fam mewn llewygfa gan fraw. Ond i ddychwelyd at hanes y llofrudd; efe a aeth adref yn ddioed wedi cyflawni y gyflafan, ac a alwodd ar fachgen o was oedd ganddo yn ei fasnachdy i gyfodi i agor iddo; wrth yr hwn y cyffesodd ei euogrwydd, ac a ddywedodd wrtho fod rhaid iddo ymolchi a newid ei ddillad yn yn y fan, gan y byddent ar ei ol ef allan o law. Yr oedd ei ddwylaw a'i wyneb yn nghyd a'i ddillad wedi eu lliwio a'i gwaed; ac efe a losgodd rai o'i ddillad y rhai oeddynt fwyaf gwaedlyd. Wedi ymwisgo mewn dillad glân efe a eisteddodd o flaen y tân hyd bedwar o'r gloch y boreu, pan alwodd ar y bachgen drachefn, gan ddywedyd, "Tyred, myfi a ddeuaf gyda thi i'r man lle cyflawnais y weithred." Felly hwy a aethant rhyngddynt a thŷ Mrs. Pemberton, ac wedi myned yn agos yno efe a archodd i'r bachgen fyned yn mlaen ac ymofyn a oedd hi yn fyw, gan ychwanegu, yr arosai efe ef yn y fan hono; ond yr oedd y bachgen yn rhy ofnus i fyned yn mlaen, ac erbyn iddo droi yn ol aethai Thorley ymaith. Deallir iddo droi oddi yno i Gaerlleon, lle y cyrhaeddodd rhwng naw a deg y boreu: ac wedi cael gwydriad o ddïod mewn tafarndy, efe a aeth at borthor y castell, ac a'i rhoddodd ei hun yn garcharor i'w ddwylaw; gan gyffesu ei weithred waedlyd wrtho, a'i sicrâu fod ei hunan-gyhuddiad yn wirionedd: ac efe a wnaeth yr unrhyw gyffesiad o flaen un o'r hedd-ynadon wedi hyny; ac a ychwanegodd, iddo fod yn sefyll gyda hi yn y drws tua deng mynyd o leiaf, ac un law dros ei gwddf a'r llall dan ei wisg yn gafaelu yn yr ellyn agored; ac iddo arfer pob dengarwch a allai i'w pherswadio i'w briodi ef; ond nad oedd ei ddeniadau na'i ddagrau yn llwyddo dim ac ar ei gwaith yn erchi iddo na ddelai yno mwyach, efe a gymerodd yr ellyn ac a dorodd ei gwddf.

Sonia am y ferch ieuanc drancedig yn y modd parchusaf, a chanmola hi yn barâus fel un o'r benywaid mwyaf rhinweddol a adnabuasai efe erioed.

Mae yn beth nodedig, ddarfod i ewythr y llofrudd, brawd i dad ei dad, yr hwn hefyd a elwid Samuel Thorley; lofruddio benyw a arferai ganu baledau, mewn lle a elwir West Green, yn yr un gymmydogaeth, o fewn tua hanner can mlynedd yn ol. Efe a gymerodd ddarn o'i chnawd mewn sypyn i dafarndŷ, lle y triniodd, ac y bwytaodd beth o hóno. Cafodd yr adyn ei grogi am ei erchyll-waith.

Y DYMHESTL DDIWEDDAR A'I

HEFFEITHIAU.

RHYNGODD bodd i'r Hollalluog, yr hwn sydd yn gwneuthur y cwmwl yn gerbyd iddo, yn marchogaeth ar adenydd y gwỳnt, ac yn llywodraethu ymchwydd y môr a'i dònau, ymweled a'n gororau y dyddiau diweddaf mewn dull mor ofnadwy, fel nad anghofir dydd Gwener y 29ain o Dachwedd diweddaf yn yr oes hon debygid.

Yr ystorm arswydus a adawodd argraffiadau aml o'i bod a'i grym, ar y tir; ond ar hyd wyneb y dyfnder gwlybyrawg y tramwyai â chamrau angeuol.

Y corwynt a barai gyfodiad annysgwyliad wy mewn amryw o'r afonydd, megys y Dee, y Mersey, &c.; fel y parwyd cryn golledion mewn moch, defaid, a gwartheg mewn rhai parthau, drwy or-lifiad yr isel-diroedd o'u A llawer o brènau a ddiwreiddiwyd, deutu. darnau o fagwyrydd a chwalwyd, a llawer annedd a siglwyd, nes ofnai yr anneddwyr drigo ynddynt. Un o newyddiaduron Llynlleifiad a ddywedai, fod y gwynt nerthol yn rhuthro drwy y dref hono, gan fwrw simddeiau i lawr, lluchio y llechau oddiar bènau y tai, a'u siglo o'u sylfaeni; fel yr oedd yn beryglus myned allan i'r heolydd, ac yn arswydus aros i mewn. Parhâai y dymhestl i gryfâu hyd oddeutu 11 boreu ddydd Gwener, pryd yr oedd golygfa annarluniadwy i'w chael ar yr afon, y môr-furiau, a'r llongorsafau. Nid oedd llestr mewn unrhyw orsaf heb fod mewn ysgogiad, a llawer o honynt a niweidiwyd yn ddirfawr. Yr eglwys nofiadwy a chwyrn-daflwyd o'i hangorfa, a'r rhodfa o'r môr-fur iddi a ddrylliwyd. Rhuad y gwynt yn y goedwig hwyl-brènawl oedd fel taran-drwst rhaiadr. Yr afon gynhyrfus gan y rhyferthwy a fwriai ei dyfroedd dros y môr-furiau nes oedd rhai o'r porthfâau wedi eu gorchuddio â'r llifeiriant, ac yr oedd yn orchwyl gorchestol i ungwr sefyll ar ei wadnau ar y môr-furiau. Tra'r oedd yr ystorm yn ei grym, ni feiddiai un o'r agerdd-fadau gynnyg croesi yr afon i Swydd Caerlleon: a gorfu i bob llestr o'r bron a droisant allan ddydd Iau droi yn ol, yr agerdd-longau a'r hwyl-longau. Golchwyd is-lywydd un o'r llestri dros y bwrdd gan foryn dychrynllyd; ond adchweliad y don a'i bwriodd yn ol, fel y gallodd afael yn ystlys y llestr, ac felly dihangodd a'i fywyd ganddo. Ond yr hanes mwyaf galarus a'n cyrhaeddodd etto, yw hanes drylliad y llyw-fâd (Rhif. I.) a elwid y Good Intent, ar feisdon Formby, yn yr hwn yr oedd 22 o wyr, o'r rhai y boddodd 13. Gwelid y bâd hwn yn gyfagos i lan Formby rhwng chwech a saith yn y boreu, ac arwyddion cyfyngder wedi eu dyrchafu arno: ond yr oedd y môr mor gynhyrfus fel na chaid gan neb anturio i'w cymhorth. Tua saith ymdorodd y môr dros y llestr, a

yn gryf iawn, a'r tonau yn ymdori yn aruthrol arnynt, gan eu bygwth â distryw diattreg. Bwriasant angor mewn tri gwrhyd o ddwfr; ond hi a darawodd ar feisdon yn y fan, ac a lanwyd a dwfr mewn llai na hanner awr. Y cadben Mr. H. Davies, a'i fab yn unig a achubwyd, drwy lynu yn y rhaffau, lle y buont hyd amser trai. Gofidus oedd genym glywed fod gwraig y cadben wedi boddi, yn nghyd ag Ellis Williams, Penrhyn deudraeth, John Williams, Caer-ynarfon, Vincent Richards, Abermaw, a Mr. Morris Williams, mab Ceidwad Gwesty yr Unicorn, o'r Abermaw. Y Resolution o Amlwch a ddrylliwyd yn afon Gaer hefyd, a boddodd tri o ddynion: ond achubwyd y cadben. Yr Hill, o Newry, a ddrylliwyd yn hollol ar lanau y trwyn dû Penmon, gerllaw Ynys Seiriol, ond achubwyd y morwyr. Y Susan, o Gaerludd, rhwym o Lynlleifiad i Marseilles, a aeth ar y Gogledd-draeth, yn agos i Gaer-yn-arfon : a diau y buasai y morwyr a'r mynedolion wedi boddi oll yn fuan, pe na buasai i'r diogel-fâd (life boat) fyned attynt, drwy yr hyn eu hachubwyd oll. Tra yr oedd y bâd yn dychwelyd gyd a'r rhai hyn, gwelid arwydd o gyfyngder ar y Sally, rhwym o Ddulyn i Lynlleifiad, ond nid allent weini ymwared iddynt, gan fod yn rhaid iddynt ddwyn y rhai a achubasent o'r Susan

golchodd ddau dros y bwrdd, y rhai a sodd asant yn fuan, er y gallent nofio yn dda. Yn fuan wedi hyn dyrysodd yr hwyl.brenau, fel nad oedd ganddynt ond ymdrechu cadw y llestr o flaen y gwynt, i edrych a allent hwy gael adeg i gyweirio y taclau: ond ofer oedd eu cais, gan fod y môr yn ymdreiglo fel mynyddau o'u cylch, a'r tònau yn ymdori arnynt, fel yr oedd y caban yn cael ei lenwi â dwfr yn brysur; ar hyn trodd y trueiniaid lluddedig i weithio ar y sugnyddion yn ol hyny o nerth oedd ynddynt, gan ymdrechu cadw y bad rhag suddo: ond hwy a darawsant ar feis-don Formby yn fuan, ac yr oeddynt mor agos i'r lan, fel yr oedd y trigolion yn gweled tua saith o honynt yn dringo i'r rhaffau, ac yn ymlynu wrth yr hwyl-brenau; ac oddeutu dwsin yn neidio i gwch bach oedd yn nglŷn wrth y bâd, a gwelid hwnw yn dymchwelyd gyd a'r trueiniaid yn y fan cyn ei ryddhau, ac ni ddaeth ond pedwar o'r deuddeg i'r lan yn fyw; y rhai hyn a nofiasant hyd at y lan drwy anhawsder mawr, ac a lusgwyd o fin y dwfr, yn debycach i feirwon, nac i fywiolion o lawer. Tua dau o'r gloch gwelid fod chwech o'r trueiniaid yn nglŷn wrth y rhaffau etto, a meddylid eu bod yn fyw, er eu bod yno er tua hanner awr wedi wyth y boreu, a'r tònau nerthol yn lluchio drostynt yn barâus: ac er fod tua chant o ddynion ar y lan yn ed-i dir yn gyntaf; felly y Sally a ddrylliwyd rych arnynt, yr oedd gormod o ofn ar bawb i anturio attynt, na cheisio eu gwaredu. O'r diwedd ymddiosgodd Mr. Richard Sumner, meddyg o Formby, ac efe a nofiodd attynt, a chostrelaid o rum yn rhwym wrth ei wddf, ac wedi cyrhaedd yr hen fâd can-dryll drwy anhawsdra mawr, canfyddai fod un o honynt wedi marw yn rhwym yn y taclau; a'r lleill oll ond un, oeddynt yn malu ewyn, fel rhai ar drancedigaeth: ond yr un hwnw, yr hwn a elwid Lancaster, nid oedd nemawr gwaeth; a llwyddodd y meddyg drwy gymhorth hwn i roddi ychydig wirod iddynt, yr hyn a adfywiodd beth arnynt; ac wedi gwneyd y cwch bach a ddymchwelasai gyd a'r lleill yn barod, efe a'u dug hwynt ynddo i dir. Y Colchester hefyd, llestr newydd yn cludo 500 tunnell, ar ei mordaith gyntaf, a aeth yn chwilfriw ar draethell Formby: ond achubwyd y dynion i gyd. Collwyd yr Elizabeth o'r Abermaw yn safn afon Gaer hefyd;cychwynasai foreu Iau o Fostyn, yn llwythog lô i'r Abermaw, a chan fod y gwynt yn gryf o'r Dê Ddê Ddwyrain, angorasant yn nghysgod tir Llanfihangel Tyssilio (Round Table), swydd Môn, tua thri yn y prydnhawn. Symmudodd y gwynt i'r Gor. Og. Orllewin tua hanner nos, a lluchid y llestr| yn ddychrynllyd; ond tua chwech y boreu, torodd y cabl, a chan ei bod yn drai y pryd hyny, nid oedd dim i'w wneyd ond wynebu tuag afon Gaer, yr hon a gyrhaeddasant rhwng deg ag unarddeg, pan oedd y gwynt

ar y Deheu-draeth, a'r dynion oll a foddwyd. Yr Albion, o Newry, wedi ei llwytho a 3070 barilaid o ymenyn, ac oddeutu 40 tunnell o geirch, a aeth yn chwilfriw yn môr-gilfach Malltraeth: ond achubwyd y dwylo a berthynent iddi, yn nghyd a pheth o'r llwyth.Y Fame, o Aberteifi, yn llwythog o dderw i Greenock, a yrwyd ar feisdon Malltraeth hefyd; ond achubwyd y dynion, a dysgwylir y gellir cael y llestr ymaith heb lawer o niwed.-Yr Hero o Aberdeen, yn llwythog o haiarn o Newport i Lynlleifiad, ag aeth ar feis-don Llan-ddwyn; ond y morwyr a gyrhaeddasant y tir, a gobeithir na bydd colled am y llong. Mewn gair, y mae glanau Môn ac Arfon yn dry-frith o falurion a adawodd y môr ar ei ol, fel tystion o'i gynddaredd; ac ofnir bod amrai lestri wedi colli yn y parthau hyny, heblaw a grybwyllir uchod. Clywsom am rai eraill wedi colli ar dueddau yr Iwerddon; megys y Minerva, o Newfoundland i Lynlleifiad, y City of Limerick, &c.; ond ni oddef ein terfynau i ni roddi yr hanes o'u drylliad i fewn yn y rhifyn hwn: yn unig crybwyllwn am yr ymddygiad anonest ac annynol a ddangosid gan y Gwyddelod ar ddrylliad y llestr olaf. Wedi gyru y 'City of Limerick' ar draethellau Ballybunion, ger afon Shannon; gallodd y llywydd a'i wŷr ddïanc i dir; ond erbyn cael daear dan eu traed, yr oedd cannoedd o fleiddiau mewn crwyn dynol yn barod i'w croesawi; a'r croesaw a roisant iddynt oedd

curo y llywydd i'r llawr, a'i yspeilio o'r unig | beth a achubasai o'r llestr, dwyn öriawr yr is-lywydd, a cheisio dwyn dillad y trueiniaid oddi am danynt. Erbyn hyn daeth rhai o'r môr wylwyr yno i geisio gwaredu y morwyr, a diogelu y llong-lwyth; oblegid yr oedd y bobl yn lluosogi, a chan fod amrai lestri gwirod yn nofio i'r lan o fol yr hen lestr a ymagorašai, rhuthrent iddynt yn or-wancus, ac yfent yn helaeth o'r whiskey, fel y bu orfod i'r gwylwyr danio arnynt, a saethwyd un dyn: yna y dorf fileinig a ymgynddeiriog asant, a bu raid i'r gwylwyr ffoi am eu byw ydau. Bellach dechreuwyd ar y gwaith lladradaidd o ddifrif, a gorphenent rwygo y llestr â bwyill, gyrdd, a llifiau, a llwythent y meirch a'r certwyni, â'r cig, yr ymenyn, a'r gwirod, o'r hwn yr oedd rhai wedi ymlenwi cymmaint nes oeddynt yn ymestyn ar y traeth fel moch heb allu ysgogi. Ond galwyd y milwyr yno yn fuan, y rhai yn nghyd a'r swyddwyr ydynt yn dechreu chwilio wlad am yr eiddo lladradaidd.

At y rhestr ddu uchod, clywsom am longddrylliad yr agerdd-long Arglwydd Blayney. Ni's gwyddys pa nifer o fywydau a gollwyd heblaw y dynion a berthynent iddi.

Gwyr rhai o'n darllenwyr fod llestr wrth angorion ar y ffordd i afon Llynlleifiad, ar yr hon y bydd goleuadau yn y nos, er cyfarwyddo llestri i ochel y traethellau; ond torwyd y gadwyn oedd wrth un o'i hangorion gan ysgytiadau y dymhestl ar ddydd mawrth, Rhag. 10fed: a chan fod y dynion oedd ynddi ofni am eu bywyd, hwy a gyfodasant yr angor arall, ac a lusgwyd gan yr agerddlong Dolphin i'r porthladd.

yn

Tuag 11 boreu drannoeth, cychwynai yr Arglwydd Blayney o Newry, ac er gwneyd llawer o ymdrechiadau yn nghorph y dydd i rybuddio y llestri oedd ar eu cyrch i Lynlleifiad o'r amgylchiad uchod, fel y gochelent y beis-leoedd peryglus yn y nos, meddylir na chafodd y Cadben Stewart mo'r hysbysiad; ac felly iddo gam-gymeryd y goleu sydd ar y lle a elwir Point of Air, am y goleu nofiadwy, yr hyn a fu yn achlysur (fel y bernir) iddo redeg y llestr ar y traethellau hyny, lle ei drylliwyd, a darfu am danynt oll.

mellden. Gyda hunan feddiant anarferol ymaflodd yn y paladr a'i dwylaw, gan wneyd egni prysur i roddi ei thraed arno yr un pryd fel y gallai gyd droi âg ef, rhag dadgymmalu ei gwddf: llwyddodd i lynu wrtho dros ddau neu dri o droiau; ond gan ei fod yn chwyl-droi mor gyflym, hi a gollodd ei gafael o'r diwedd, a bwriwyd hi tuag wyth neu ddeg troedfedd oddiwrtho, gan adael croen ei phen yn hollol, o aeliau y llygaid o'r tu blaen, hyd ganol ei gwddf o'r tu arall, yn nglyn wrth y paladr. Cyfododd oddiar y llawr yn y fan, ac a redodd i attal y gwydd y perthynai hi iddo, tra yr oedd yr arolygwr yn attal yr olwyn. Galwyd am y meddygon, Miller a Phillips yn y fan, y rhai a osodent y croen yn ei ol am y pen, ac a gludent y dyoddefydd i'w hystafell. Y mae hi yn awr yn dra chysurus, a'i meddygon yn tystio fod pob arwyddion o aduniad cadarn rhwng y croen a'r pen, ac o adferiad iechyd prysur.

LLONG-DDRYLLIAD DRWY DAN. ANFONID yr hanes alaethus ganlynol i'r Newyddiadur a elwir "TIMES," gan y Parch. Dr. Fletcher Stockton, a hwyliodd o'r Tees foreu Gwener y o Stepney. Y "Paragon," llestr fasnachol o cyntaf o Dachwedd, a chyfarfa ag awelou cryfion drwy ystod y dydd hwnw, a'r ddau ddydd canlynol. Angorodd yn ddiogel yn y Nore, oddeutu chwech y prydnhawn ddydd Llun, Tach. 4. Y llong-lywydd, wedi ei orchfygu gan flinder, a ymneillduodd i orphwyso. Y mynedolion benywaidd o'r rhai yr oedd pedair ar y llestr, a ddychrynwyd yn fuan gan arogl tân yn mhen blaen y llestr; a thua'r un pryd, canfu un o'r benywaid dân yn

cwympo ar lawr y caban.

Pan alwyd y llywydd, efe a ganfu fod rhan o'r llestr pob ymdrechiadau i ddiffodd y tân, aflwyddiannus yn dechreu ymgynneu yn arswydus; ac er fu eu holl ymegniadau. Y dwylaw, a'r mynedolion (unarbymtheg mewn nifer) a achubwyd drwy fyned i'r bad; ond ni chafwyd dim o'r meddiannau o afael y tân. Llosgodd y llestr hyd wyneb y dwfr, ac yna suddodd.

Yn y sefyllfa beryglus ac amddifaid hon, cymmerwyd y trueiniaid a waredasid megys o safn Martha marwolaeth, ac a'u derbyniwyd i fwrdd y o Sunderland; lle yr ymddygwyd yn y modd tirionaf atynt, gan y cadben (Chapman) a'i wyr. Cymmerasid Mr. Thomas Metcalf, a'i wraig, eu dwy ferched, a'u mab, o'r llestr losgedig heb ddim ond eu dillad nos am danynt; a buant yn agos i dair awr mewn cwch agored, byd en gliniau mewn dwfr yn agored i guriadau y dymhestl afrywiog. Pan eu dygwyd i fwrdd y Martha, dangoswyd pob tiriondeb a ellid tuag atynt; ond nid ellid cael dillad i'r teulu trallodus hyd oni chyrhaeddasant Llundain. Yr oedd y gwr hwn yn amcanu ymsefydlu gyda'i deulu yn Llundain, ac ar ei DAMWAIN ARSWYDUS YN AMERICA. fynediad yno yr oedd pan gyfarfu â'r amgylchiad uchod; ac yr oedd eu holl ddodrefn, eu dillad, a'u FEL yr oedd Miss Van Buren, boneddiges harian gyda hwy: a thrwy yr ymweliad dychrynieuanc o Valantine, yn trin ei gwallt yn lyd hwn yn rhagluniaeth, collasant eu holl feddngweithfa Mr. Baldwin, cafodd un o'r pelydriannau, a gadawyd hwy yn hollol dlodion a dihaiarn chwyrn-droellawg afael arno: y paladr hwn oedd tua dwy fodfedd a haner o dryfesur, ac wedi ei osod tua dwy fodfedd Yr oedd ar bymtheg oddiwrth yr uch-lawr.

AMRYWIAETHAU.

y foneddiges yn sefyll yn agos ato a'i hwyneb oddiwrtho, ac fel yr oedd hi yn bwrw ei gwallt yn ol, cydiodd yn y paladr, a theimlai ei hun yn cael ei thynu ato â chyflymder

gymhorth.

Cyfrifon Ysgolion Sabbathawl Cyfunawl Brydain Fawr a'r Iwerddon, am y flwyddyn yn diweddu Mai, 1833.

Bl.

Ysgolion. 1833.-11,275.

1832.-10,946.

Cynnydd,-329.

Athrawon.

Dysgyblion,

128,764.

1,158,434.

[blocks in formation]
[blocks in formation]

or yn un naturiol ac hanfodol yn nghyfansoddiad dyn. Os yw yr annuwiaid yn tybied y byddai iddynt wrth ddadymchwelyd Cristionogaeth ddiddymu pob crefydd, y maent yn dirfawr gamsynied. Pe gallent ddadymchwelyd Cristionogaeth, byddai gan ddynt waith anorphen wedi hyny, yn lle crefydd bur, addfwyn, dyner Crist, buan Ꭹ caent eu hunain wedi eu hamgylchu gan goel-grefyddau mòr fryntion, twyllodrus, gwrthun ac afresymol, ac a fagwyd erioed yn

MAE dyn o ran ei gyfansoddiad yn un y mae | arddangos yn y modd egluraf fod yr egwyddyn rhaid iddo gael rhyw grefydd. Ymddengys y gwirionedd o hyn os craffwn ar egwyddorion y natur ddynol, a hanesiaeth y byd. Y mae dyn yn meddu ar deimlad o rwymedigaeth foesol, dirnadaeth am y gwahaniaeth rhwng cam a chymmwys, teimladau o anesmwythder a braw, neu ynte ymfoddloniad wrth adsylwi ar ei ymddygiadau, ofnau cael ei gospi wedi y troseddo, a thuedd i dalu ymostyngiad crefyddol i ryw wrthddrych gweledig neu anweledig. Y mae yn amlwg mai teimladau naturiol ac nid dam-ngwely brwd Paganiaeth. Bydded iddynt weiniol yw y rhai hyn; oblegid bodolant mewn dynion yn mhob oes ac yn mhob gwlad; oblegid hyn ni chafwyd erioed yr un genedl, hen na diweddar heb fod ganddi ryw grefydd. Mae yr egwyddorion hyn wedi gwreiddio mor ddwfn na ellir byth eu symud. Gall dynion gael eu denu i adael eu hen grefydd a dewis un newydd, ond ni allant byth aros yn hir heb un grefydd. Cymerer oddiwrthynt un gwrthddrych addoliad, buan yr ymlynant wrth un arall. Os bydd iddynt | golli gwybodaeth am y gwir Dduw, gosodant i fynu dduwiau o'u dyfais eu hunain. Mae hanesiaeth y byd yn dwyn tystiolaeth mor eglur i'r gwirionedd hwn, fel na ellir ei wadu. Yn awr y mae cyffredinolrwydd crefydd yn F

edrych i'r byd Paganaidd, a sylwi ar y ffieidd-dra a'r trueni y mae hen goel-grefydd yn ei dal i fynu yn rhai o'r gwledydd prydferthaf a mwyaf poblogaidd ar y ddaear. Bydded iddynt edrych ar dylwythau gwylltion Affrica ac America, a sylwi ar y caethiwed y mae coel-grefydd wedi dwyn y bobl hyn dano. Byddai i ddrygau mor fawrion yn fuan gynnyddu yn ein plith ninnau, oni bai effeithiad iachusol Cristionogaeth. Ein cyn-dadau oeddynt yn yr un sefyllfa isel a gresynus cyn iddynt ddyfod yn Gristionogion. Y mae yn wirionedd y dylid ei gyhoeddi yn mhob man ar benau tai, mai y Bibl a'n gwaredodd o dan awdurdod echryd, us coel grefydd. Ni bu gan Athroniaeth un

« FöregåendeFortsätt »