Sidor som bilder
PDF
ePub

anner (heifer) ddwyflwydd oreu-gwobr o £4. 7. I'r dywededig Mr. John Dawson, ain yr anner flwydd oreu-gwobr o £2.

8. I'r dywededig Mr. William Bloor, am y tarw dwyflwydd goreu, a chyrn byriongwobr o £3. 3s.

9. I'r dywededig Mr. William Bloor, dra. chefu am y tarw dwyflwydd goreu, a chyrn byrion-gwobr o £1. 11s. 6c.

10. I'r dywededig Mr. John Dawson, am y fuwch flîth oreu, a chyrn byrion, heb ei phesgi-gwobr o £3.

11. I'r dywededig Mr. John Dawson, am y fuwch arall oreu £1. 11s. 6c.

12. I'r dywededig Mr. William Bloor, am yr anner flwydd oreu, a chyrn byrion-gwobr o £2. 12s. 6c.

yn Amaethyddiaeth swydd y Fflint i'w briodoli yn fawr i'r Gymdeithas Amaethyddol sydd wedi sefydlu er's cynnifer o flynyddoedd yn y sir hono drwy annogaeth a than nodded y gwladgarol a'r anrhydeddus bendefig, yr Arglwydd Mostyn.

HANES Y TEULU HYNOD.

Tad a seiliwr "Ty Rothschild" a elwid Mayer Anselmo, ac a anwyd yn Frankfort, yn 1743. Pan oedd efe yn un ar ddeg oed, collodd ei dad a'i fam; ac wedi treulio peth amser fel athraw cynnorthwyol mewn ysgol gyhoeddus, efe a drodd ei feddwl yn natur. iol at fasnach, yr hyn a ddechreuodd yn y dull canlynol; dros ychydig bu yn cario ei bac, fel pedlar cyffredin; ond yn fuan wrth ganfod y blys cyffredinol oedd yn gryf yu

13. I'r dywededig Mr. John Dawson, am y llo tarw goreu, chwe mis oed-gwobr o £1. 14. I'r dywededig Mr. J. Dawson, am ymysg goludogion yr Almaen am fathau cofbaedd goreu-gwobr o £1. 11s. 6c.

Sylwid fod yn beth tra nodedig na ddygasai yr Amaethwyr Cymmreig ond 14 o an. ifeiliaid i'r ymdrech, ac â'r rhai hyny ddarfod iddynt ennill 14 o'r gwobrwyon! Yn mhlith yr anifeiliaid hyn gwneid sylw neillduol o darw ieuanc Mr. Bloor: yr anifail rhyfeddol hwn, er nad yw mor dwy flwydd a hanner oed; a bwysa uwchlaw dau cant ar bymtheg! Nid oedd yn yr holl ymdrechfa yr un creadur i'w gydmaru â hwn, a hyny hyd yn nod y tarw a ennillasai yr ymdrech ddiweddar yn Manchester.

Ar ol yr ymdrech am y Gwobrwyon, ciniawai yr ymdrechwyr ac eraill gyd a'u gilydd, rhwng pump a chwe chant o nifer, y Gwir Anrhydeddus E. G. Stanley, M. P., yn y gadair, ac o'r tu ol iddo yr oedd y Gwobrwyon yn grogedig, yn gwneuthur golwg harddwych, sef yn nghylch 40 o lestri arian o wahanol ddulliau, ac amrywiol brisiau, o ddwy hyd yn ddeg punt yr un.-Ar ol i Adroddiad y Gymdeithas gael ei ddarllen, sylwai yr Anrhydeddus Gadeirydd fod dirfawr ganmoliaeth yn ddyledus i'r boneddigion o'r Siroedd cymmydogol, yn enwedig i'r ddau o Gymmru a fuasai mor llwyddiannus ar yr achlysur presenol, sef Mr. Dawson a Mr. Bloor. Y ddau Amaethydd byn a ennillasant anrhydedd anghydınarol iddynt eu hunain ac i'r Dywysogaeth: y cyfryw anrhydedd fel y gwyddai efe (Mr. Stanley) na thybiai eu Meistr tir, Syr Edward Mostyn yn ddim anfri arno fod i'w iechyd da gael ei yfed yn gyssylltiedig â'r cyfryw denantiaid.-Mewn attebiad i hyn sylwai Syr Edward Mostyn ei fod yn teimlo ei hun yn falch o gael ei gyssylltu a'r fath wyr a Mr. Dawson a Mr. Bloor -tenantiaid y byddai wych ganddo eu gweled yn ei dŷ bob dydd o'r flwyddyn.

Pe buasai ychwaneg o Amaethwyr Cym. mru wedi dwyn eu hanifeiliad i'r yindrechfa hon, sicr yw y dygasid ychwaneg o wobrwyon dros y dwfr. Diau bod y diwygiad hwn

[ocr errors]

nodawl, (medals,) efe a ddechreuodd drefnidio ynddynt, yr hyn a fu yn foddion i'w ddwyn i fath o gydnabyddiaeth âg amryw wyr urddasol, y rhai yn y diwedd a fuont yn wasanaethgar iddo ef; a thrwy eu nawdd, efe a alluogwyd i wneyd bywioliaeth dda.

Yn fuan dechreuodd arfer ei dalent yn ngwyddorion cyfnewidiad arianawl, ac efe a gafodd le fel ysgrifenydd mewn ariandy yn Hamburg; lle yr ennillodd enwogrwydd a chymeradwyaeth, drwy ei ddiwydrwydd a'i fedrusrwydd; ac wedi llawer o flynyddoedd efe a adawodd dŷ ei feistr, wedi ennill cymeriad dâ, a chòd led drom drwy ei gynnil deb canmoladwy.

Ar ei ddychweliad i Frankfort, efe a brïododd gyfnither o lwyth Juda, ac a dde. chreuodd gadw ariandy bychan, yr hwn oedd hedyn yr ariandy mawr sydd yn llanw Ewrop a'i glod yn bresenol: a thrwy ei uniondeb, ei fywiogrwydd, a'i fedr i drin arian, efe a ennillodd ymddiried cryfach cryfach yn y gwledydd, a'i negeseuaeth mewn canlyniad a gynnyddai yn fawr. Yn 1801 cafodd Mr. Rothschild ei bennodi yn oruchwyliwr i lŷs Landgrave Hesse, yr hyn oedd y cyssylltiad tywysogaidd cyntaf a wnaed â'r tŷ hwn; ond wedi hyny bu y Rothschilds yn trefnidio llawer gyda, ac mewn pennaduriaid.

Oddeutu y flwyddyn 1806, dechreuodd tŷ Rothschild ymgyfodi i fri a sylw nodedig, mewn canlyniad i'w hechwyniad cyntaf o ddeng mil-fil o Florins i lys Denmarc.

Yn 1812 bu farw Mayer Anselmo Rothschild; a phan oedd ar ei wely angau, yn gweled ei ddiwedd yn nesâu; efe a alwodd am ei ddeg plentyn at ei wely, ac a roddes ei fendith angeuol iddynt, gan wneuthur iddynt addaw na newidient byth mo'u crefydd, ac y parhäent yn unol a'u gilydd ar y gyfnewidfa: hwythau a gadwasant yr addewidion hyn yn fanol; ac ynddynt y gwiriwyd chwedl y pum brawd a'r baich ffyn yn

helaeth. Pan fyddont ar gymeryd unrhyw orchwyl o bwys mawr mewn llaw, byddant yn ymdynghedu i goffadwriaeth eu tad, yr hwn a anrhydeddir ganddynt yn fawr iawn. Dechreuai y tŷ hwn ar ei oruchwylion gwladol mawrion, yn 1813; ac er hyny hyd yn awr, dywedir fod dros gant a thriugain mil o fil-filoedd o bunnau, wedi eu trosi i wasanaeth pennaduriaid Ewrop yn benaf, mewn ffordd o echwynion a chynnorthwyon o'r tŷ hwn: felly y mae yn rhaid fod eu belw beunyddiol yn fawr dros ben. Mae eu llwyddiant diball dros gymaint o amser, i'w briodoli yn benaf i'r undeb â'r cydweithrediad canmoladwy sydd yn hanfodi rhyng. ddynt.

Penderfynir pob cynnygiad drwy gydym. gynghoriad pwyllog; a dygant eu holl weithrediadau yn mlaen ar un cynllun cyffredinol a chydamcanedig; a'u cydegniadau a arferir i'r eithaf mewn ymgais am lwyddiant. Er eu bod yn preswylio yn bell oddiwrth eu gilydd er's blynyddau, nid yw hyny yn achlysur o oerni nac anghyduniad rhynddynt, eithr yn hytrach y mae hyn yn gweinyddu yn fawr er eu budd a'u llwyddiant, trwy eu bod yn cludo gwybodaeth am ansawdd marchnadoedd ariannawl y gwahanol wledydd i'w gilydd drwy frys-negesyddion, fel y maent yn meddu mantais i ddwyn yn mlaen eu marchnadyddiaeth.

Bu llwyddiant yn llifeirio gyd a'r gwyr hyn yn hynod o esmwyth hyd yn ddiweddar, pan eu colledwyd hyd oddeutu dwy fil o filoedd o bunnau, yn eu gorawydd i afael yn yr ysgrif-rwymau Hispaenaidd, ac yn ymestyn at yr urddas o fod yn brif arianwyr i'r frenines.

Anscha, neu Anselmo, sydd yn trigo yn Frankfort-sur-le-Maine. Efe yw yr henaf, a'r penaf o'r teulu; ac y mae yn un a thri ugain oed. Yn ei dŷ ef y gwneir y cyfrif cyffredinol i fynu, allan o'r cyfrifon neillduol a wneir yn y pedwar ariandy arall. Yno hefyd y cynhelir cynnadleddau y frawdoliaeth.

Solomon, yr ail frawd, a anwyd Medi 9, 1774, ac a dreuliodd y deunaw mlynedd olaf fel ariannydd yn Vienna.

Nathan, y trydydd brawd, sydd, yn ddwy ar bymtheg a deugain oed; efe yw Roths. child Llundain.

Charles, y pedwerydd, sydd chwech a deugain oed. Y mae efe wedi ymsefydlu yn Naples er's 1821.

hyn, o fewn yr holl dalaith hon yn y dyddiau presenol. Er na fu ond un tymhor yn y Gydhenuriaeth (Congress) efe a ennillodd enwogrwydd mawr fel Seneddwr. Myfi a feddyliwn arno, ei fod oddeutu deugain mlwydd oed. Mae efe yn ddyn wedi dyfod i fynu drwy anfanteision, ac yn esampl nodedig o'r hyn a all dyn ei wneyd, drwy ymdrechiadau personol yn unig. Efe a anwyd o deulu tlodion, ac a ddygwyd i fynu yn y dalaith hon. Ac yn ei ieuenctyd, bu yspaid maith yn dilyn yr alwedigaeth o hollti coed. Gan ei fod yn wr ieuanc cryf ac ystig, rhagorai ar lawer am arfer y fwyall. O'r diwedd, wedi iddo dyfu i fynu, dechreuodd sychedu am ddysgeidiaeth yn anghyffredin, ac felly efe a wynebodd i ryw athrofa, tu ag at gael ei rag-gynhwyso i ddechreu ymaflyd yn y gyfraith. Tra yn yr athrofa, holltai goed ger drws y sefydliad yn ei oriau seibiannawl, a phan fyddai yn wyliau yn yr athrofa, efe a grogai ei fwyall dros ei ysgwydd, gan droi allan i chwilio am gym. wynas, yr hon a gyflawnai; ac yna dychwelai yn ol i'r athrofa, a'i iechyd heb ei anmharu, a'i feddwl yn fywiog i ddechreu gafael yn nhestunau ei fyfyrion. Fel hyn y cynhaliai ei hun yn yr athrofa, ac fel hyn y paraodd i fwynâu ei iechyd mor ragorol, fel nad oedd yn feddalach, yn wanach, nac afiachusach yn dyfod allan, nac oedd yn myned i mewn i weithfa dysg. Ac y mae y gwr hwn yn awr, yn un o seneddwyr Unol Daleithiau yr America.

LLYN TRO Y NIAGARA.

Mae y tro-lyn yma amryw filldiroedd islaw y rhaiadr, ac y mae yn un o'r golygfeydd naturiol hyny ydynt uwchlaw darluniad mewn godidowgrwydd. Rhyw geudwll mawr a dwfn yw y llyn tro yma, yn yr hwn y mae dyfroedd mawrion y St. Lawrence yn ymdreiglo mewn cylchdro parhaus, yr hyn a achosir drwy yr attaliad a roddir i'w llifiad drwy ongl o'r dwfr-fur serth ac anghy fanedd. Bu y tro-bwll fel y rhaiadrau, yn achos o golli bywyd dynol lawer gwaith; crybwyllir yma un esampl.

Yr oedd gan Mr. Wallace y Gôf fab, yu fachgenyn teg, o'r hwn yr oedd yn dra hoff; un diwrnod aeth y bachgenyn i waered i'r tro-bwll: ond gan iddo anturio yn rhŷ bell, a bod y llif yn rhŷ gryf iddo, efe a gludwyd i'r trô. Ei fam druan a'i meddyliau ar ddyJacob, yr ieuengaf, a anwyd Mai 5. 1792. rysu, a eisteddai ar y dwfr-fur pruddaidd orEi briod yw merch ei ail frawd, y Barwniau a dyddiau, ac a gaufyddai gorph ei Solomon. Y mae efe yn dilyn ei alwedigaeth yn Mharis er 1812.

HUNAN-DDYRCHAFIAD.

Mr. Ewing, Seneddwr o Ohio, yn yr Unol Daleithiau, sydd un o'r dynion hynotaf am

phlentyn hoff ei hun yn cael ei gludo gylch ogylch gan y dwfr; weithiau yn ymsuddo o'r golwg ac wedi hyny yn ymdroelli i wyneb y dwfr berwedig; a pharhaodd fel hyn dros amryw ddyddiau, heb fod unrhyw allu dynol yn abl hyd yn nod i gael ei weddillion marwol oddiyno. Un o'm cydnabod, sydd yn

trigo ger y tro.bwll a'm hysbysai y byddai y cyrph yn dyfod o'r berw-lyn cethin yma yn mhen pump neu chwe diwrnod; ac yn cael eu cludo i waered yr afon gyd a'r llif. Mae yn arferol gan ddynion a fyddont yn nofio coed rhwng y rhaiadrau a'r tro-bwll, ddyfod oddiar y gludair cyn yr elo i'r ceudwll, wedi ei gosod yn gyntaf yn y sefyllfa fwyaf manteisiol i fyned gyd a'r llif heb fyned i fewn i'r tro-bwll. Pa fodd bynag ar un achlysur, gwrthodai un o'r cludeirwyr adael y gludair, -nid ofnai efe na fyddai pob peth yn ddiogel-taerni ni fuddiai i gael ganddo roddi ei amcan ynfyd heibio; felly yn mlaen yr aeth y gludair, a'r adyn pendew arni, a buan iawn eu tynwyd i'r cylch dinystriol; o amgylch yr hwn y paräodd i gylch-droi dros dri diwrnod a thair nos: ac ni allai holl ymdrechion y miloedd edrychwyr pryderus oddiar y glanau, weithredu unrhyw ymwared iddo. Yr ysgogiad cylch-dröawl diball, a glafychai y truan, fel y collai ei allu i fwytta, ac i gysgu; ac nid oedd ond angau brawychus yn ngwydd ei lygaid, yr hwn drwy ei oediad nos ar ol nos, oedd yn cael ei wneyd yn fwy fwy arswydlawn.

| y rhai a arferant chwilio am y perlau, anturio ymladd âg ef, heb unrhyw arf amgenach na darn o bren wedi ei flaenllymu ar ei ddau ben. Dysgwyliant yn ddyfal am agoriad safn anferth y creadur ofnadwy, ac yna bwriant eu braich i mewn iddi, a'r pren yn syth yn eu llaw, ac fel hyn y cadwant ei safn yn agored nes y bydd drigiannydd y dyfroedd foddi.

MARCHWRIAETH YN CHILI.

Mae y lluaws dirfawr o feirch ydynt yn gorlenwi y wlad hon, yn peri fod y radd iselaf o'r trigolion yma fel yr Arabiaid Bedouaidd. Nid yw, hyd yn nod y tlotaf heb ei farch, yr hwn a allant ei brynu am swm bychan o arian, a phrin y gwelir un o honynt yn cerdded ar hyd heol. Ond gan eu bod yn arfer marchogaeth yn wastadol, ychydig o beth ganddynt, a fydd taith o ddau neu dri chant o filldiroedd. Mae eu coesau yn geimion drwy fod ar y cyfrwy yn wastadol, yr hwn sydd gynnwysedig o amryw grwyn defaid, wedi eu lliwio â gwahanol liwiau a'u rhwymo ar gefn y march; yr hyn sydd yn O'r diwedd caed dyn yr hwn a anturiodd gwneyd eisteddfa esmwyth, ond ei bod yn i'r tro-bwll cyn belled ag y gallai gyda gob-llydan. Y gwrthaflau a wneir fynychaf o aith am ddyfod yn ol yn fyw. Rhwymid rhaff gref am ei ganol, un pen o'r hon oedd yn y lan. Efe a gludai raff arall yn ei law, i'w daflu i'r gludair, yn yr hyn y llwyddodd; a'r dyoddefydd galaethus a'i rhwymodd wrth y gludair, ac fel hyn ei tynwyd i'r lan, ac yr achubwyd y penglog hunanol o safa marwolaeth.

EFFEITHIAU OFN AR DDYWALGI.

Yn ystod yr ystorm arswydus, a'r llifeiriant mawr a fu yn Bengal, yn Mai 1833. Dioddefodd tiriogaethau un Mr. Campbell, y rhai oeddynt yn ynys Sauger, ger safn yr afon Hoogly, fel na ddia godd onid oddeutu chwech neu saith gant o ddynion allan o'r tair mil a drigent ar ei diroedd ; a'r rhan fwyaf o'r rhai hyn a waredwyd trwy ymlynu wrth nèn ei dŷ ef. Pan oedd y tŷ fel hyn yn llawn, heb braidd le i un dyn ychwaneg o'i fewn beth a welid yn ymwthio i mewn i'r tý, onid dywalgi anferthol, a'i losgwrn yn llusgo ar ei ol, ac arwyddion eraill o ofn dirfawr. Wedi cyrhaedd yr ystafell lle yr oedd Mr. Campbell yn eistedd, efe a ymwthiodd i gongl o'r ystafell, ac a ymorweddodd megis ci mawr. Llwythodd Mr. Campbell ei ddryll yn y modd llonyddaf, ac a'i saethodd yn farw yn y fan.

BODDI PYSGODYN.

Mae y morgi yn greadur grynus ac ysgly faethus hynod, eto nid yw yn nemawr o beth gan ymsuddwyr yr India Ddwyreiniol,

goed, ac a addurnir weithiau â rhyw gerfwaith, eto nid ydynt ond afluniaidd. Maent wedi ymarfogi a'r lasso, sef carrai gref a hir, wedi ei throi yn un ddarn o'r croen: rhoddir un pen iddi yn ddiogel dan rwymyn y cyfrwy, a'r rhan arall o honi a gadwant yn gylchau yn eu llaw aswy, pan fyddo yn debyg i fod mewn galwad, a'r ddolen yn estynedig yn eu deheulaw. Pan fyddont am ei bwrw, byddant yn ei chylch.droi ddwy waith neu dair oddeutu y pen, ac yna ei gollwng at eu nod. Prin y byddant yn methu eu nod un amser o'r bron, mor fedrus ydynt yn yr arferiad o'r arf hwn, yr hwn yn eu dwylaw hwy sydd yn dra nerthol, fel y daliant unrhyw anifail ar ei rediad ; ac y mae y march megys yn cyfranogi o fedrusrwydd ei feistr, oblegyd, gan gynted ag y magler creadur cryf â'r lasso, mae y march yn ymochri, i wrth-daro ei rỳm.

Wrth ymosod ar eu gelynion, byddant yn gwylied am y cyfle i daflu y ddolen am danynt, yr hon fydd yn ymdynhau am yr adyn a gwympo yn aberth iddynt ar darawiad amrant; ac ymaith a hwy ar garlam, gan lusgo y creadur gyda hwy dros y mynydd, nes y trengo yn gyffredin.

DAMWAIN OFIDUS DRWY DDIOFALWCH
GWASANAETHFERCH.

Medi 30, tua 4 o'r gloch prydnhawn, anfonid merch ieuanc, gwasanaethferch gyda Mr. Barton, Duke's place, Llynlleifiad, i ymrodio gyda dau o blant ei meistr, un bachgenyn tua 4 blwydd oed, a'r llall yn

faban prydferth mis oed. Aeth yr eneth
rhyngddi â morfur Llong-borth y Brenin, ac
fel yr oedd hi yn rhodio yn ddiofal gyd a'r
ymyl, tynwyd ei sylw gan ryw beth, a pharâi |
yn cerdded un ffordd, tra yr oedd yn edrych
ffordd arall, hyd oni chwympedd dros y
dibyn, yr hwn oedd yn ddeugain troedfedd
o ddyfn. Gan fod y môr allan ar y pryd,
disgynasant i'r llaid, a thynwyd hwy allan
yn fuan drwy fywiogrwydd swyddwyr y
Llong orsafau; a chymerwyd y baban a'r
llances at y meddyg agosaf, lle y gwelid nad
oedd y ferch wedi cael nemawr o niwed, ond
y babau a fu farw yn mhen tuag awr wedi y
codwm. Onid yw amgylchiad o'r fath uchod,
yn ddigon i beri i rïeni fod yn dra gwyliad-
wrus rhag gadael en plant yn nwylaw y cyf
ryw enethod diofal, yn enwedig mewn
lleoedd peryglus o fath Llynlleifiad.

AWYREN YN CAEL EI DEFNYDDIO YN
MRWYDR FLEURUS.

Ar

y 26 o Fehefin, 1794, esgynai Coutel, blaenor yr awyrolyddion yn Ffrainc, gyda dau o swyddogion y fyddin, i gyflawni y gorchwyl anhawdd a rhyfeddol o arsylwi ar y byddinoedd gelynol, oddiar ei orsedd awyrol. Esgynodd ddwy waith yn nghorph y dydd hwnw, i sylwi o uchder o bedwar cant a deugain llath, ar sefyllfa ac ysgogiadau y gelynion. Bu bedair awr yn yr awyr ar bob un o'r ddau achlysur dywededig, a hysbysai y cwbl drwy arwyddion rhaggyttunedig i Jourdan, llywydd byddin y Ffrancod, yr hwn mewn canlyniad a enillodd y dydd.

drwy yru offerynau llymion drwy daflod y genau i'r ymenydd; wedi derbyn yr hysbysiad hyn, gwelid ef mewn agwedd fyfyrgar dros rai mynydau wrth ryw ffenestr yno. Ond, y mae yn hawdd dychymygu pa fath deimladau allai fod yn meddiannu y meddygon hyn, pan ganfuwyd Ardalydd de Loule, wedi ei lofruddio yn y dull darluniedig, yn fuan ar ol yr ymddiddan uchod.-Monthly Mag. for October.

CLEFYD Y DDUEG.

Un o'r hynodiaethau perthynol i'r clefyd uchod, yw fod y rhai a fyddont dano, yn chwerthin am ben y rhai fyddo dano fel hwythau-eu parodrwydd i weled gwendidau eu cymydogion, a'u cyndynrwydd i gydnabod yr eiddynt eu hunain. Fel hyn yr oedd dyn deallus, yr hwn a arferai fwytta ac yfed, a chysgu fel pobl eraill; ond er pob peth credai yn ddïysgog mai gronyn heidden ydoedd ; a phan welai rai o'r ieir, fföai i'r ty, a chloai arno, rhag ofn i'r gelyn ei gymeryd i fynu a'i lyncu i'w grombil: eto yr un` gwr a chwarddai yn galonog wrth glywed am un arall a ddychymygai nad oedd yn feddiannol ar allu i droi mewn un modd; ond ei fod dan yr angenrheidrwydd i ysgogi rhag ei flaen, mewn llinell uniawn syth; a'i fod wedi ei dori ei hunan yn dost, drwy fyned drwy ffenestr masnachdy a ddygwyddai fod yn ei ffordd.

Myfi a adwaenwn un gwr tra dysgedig, a synhwyrol iawn mewn pethau eraill hefyd, yr hwn a ddychymygai mai haiarn bwrw oedd ei drwyn; ac nid oedd un ddadl a'i Gwybuasai y gelyn am ei amcan i esgyn darbwyllai i'r gwrthwyneb, eithr tybiai fod yn flaenorol, a'r fynyd y dechreuai yr awyr. y peth i'w weled yn ddigon amlwg i bawb ; en ehedfan, gollyngid cawod o ergydion o a phan fyddai yn ystorm o daranau a mellt, fagnelfa at yr awyryddion ; ond yr oedd gwelid ef yn rhedeg oddiamgylch mewn braw anneliad y magnelau yn rhy isel: eto aeth ac ofn rhag i'w drwyn haiarnaidd dynu yr un fwleden mor agos i'r awyren, fel y hylif danllyd; ond wedi i'r ystorm fyned dychymygai Coutel ei bod wedi ei tharo. Ac heibio, gwelid yntau yn tawelu, ac yn diolch erbyn gwneuthur yr ergydion canlynol, yr i Dduw am ei waredigaeth ryfeddol. Un oedd yr awyren wedi esgyn uwchlaw cyr- o'i gyfeillion, mewn trefn i'w waredu oddi haedd ergyd magnel, a gwelai yr awyryddion wrth ei ddychymyg a ddywedai wrtho am y bwledau yn ehedeg islaw eu cludair, heb ddyn arall a ddychymygai fod ganddo drwyn allu eu niweidio: ond wedi cyrhaedd yr gwydr, ac a ofnai fyned allan ar ddyddiau uchedd a amcanent, yn mhell oddiwrth ber-gwyntog rhag y niweidid ef; ar yr hyn y ygl nac afonyddwch, gwelent holl ysgogiadau chwim y gelyn, ac o ororau heddychol yr awyr, mwynhäent lawn olygfa ar ddwy fyddin rymus, yn ymwneyd yn ngwaith marwolaeth,

HANESYN AM DON MIGUEL.

Ymwelai Don Miguel âg Athrofa Feddygol Lisbon, yn fuan ar ol ei ddychweliad o Brazil. Ac wedi edrych yn lled fanol ar amryw gyrph difyniadol, gofynai, a oedd yn bosibl lladd dyn, heb ddim nodau o greulondeb ar ei gorph; a dywedid wrtho y gellid,

[ocr errors]

chwarddai yn anghyffredin, gan brofi drwy reswm yn ddigon eglur, na fu gan neb erioed drwyn o wydr, ac na allai peth felly fod. Y llall a ddechreuai grybwyll ei amheuon o barth hanfodiad trwyn haiarnaidd ar wyneb neb; yntau gan dramgwyddo yn fawr wrth hyny, a darawai ei drwyn, ac a ofynai i'w gyfaill, onid oedd efe yn deall wrth y sŵn, mai haiarn bwrw oedd ei drwyn ef. Gallai hyn ymddangos yn yufyd; ond y mae miloedd yn eu poeni au hunain â drygau llawn mor ddychymygol â'r trwyn haiarn, tra maent yn barod i wawdio eraill am eu bod yn ymboeni cymaint yn nghylch y trwynau gwydr.

[blocks in formation]

AR EFFAITH AMCANEDIG BENDITHION YSBRYDOL.

NID darluniad noeth o athrawiaethau yn unig yw datguddiad Duw ; ond cymhella at ddyledswyddau ufudd-dod ymarferol, cystal ag yr annoga ffydd y credadyn. Tra y mae ei addewidion mawr iawn a gwerthfawr, yn gyfaddas i weinyddu dyddanwch i'r pererin Cristionogol yn ei daith tu a'r nef; mae wedi ei amcanu hefyd i'w fywiocâu a'i arfogi â nerth i gyflawni ei rwymedigaethau. Mae gorchymynion yr efengyl yn cael eu cefnogi â'i haddewidion; a dylai ei haddewidion ein cymhell i ufuddâu i'w gorchymynion.

Tra mae y Cristionogion yn wir 'trwy allu Duw yn gadwedig, trwy ffydd i iachawdwriaeth.' 1 Pedr 1. 5.; tra y dylent fod yn ofalus bob amser i adeiladu ar yr un sylfaen sydd wedi ei gosod yn Sion, rhaid ini addef, mai 'trwy ras yr ydym yn gadwedig, trwy ffydd, a hyny nid o honom ein hunain, rhodd Duw ydyw.' Eph. 2. 8. Eto, pa gymaint o ogoniant i Dduw, a pha faint o les i'w heneidiau eu hunain, ac i'w cyd-grëaduriaid, a gollir gan ddysgyblion Crist, o ddiffyg 'perffeithio sancteiddrwydd yn ofn yr Arglwydd,' nid oes neb ond y Duw hwnw a wyr bob peth, yn abl i ddywedyd.

Wrth wneuthur defnydd manol o'r Ysgrythyrau, ni a ganfyddwn fod rhyw effaith sanct

eiddäol yn amcanedig tu ag at y credadyn, trwy yr holl orchymynion, addewidion, a bygythion a gynnwysant; mae rhyw effaith canlyniadol i gael ei gynnyrchu yn y galon a'r ymarweddiad, trwy y derbyniad o râs Duw: ac amcan y traethawd canlynol, fydd arddangos hyny, drwy rai o'r mynych grybwyllion sydd yn ngair Duw.

Mae defnyddiad y cyssylltiad fel, yn dra nodedig yn yr ysgrifenadau sanctaidd. Mynych y gwna gasgliadau, megys oddi wrth y tystiolaethau blaenorol, ac arddangosir ei hawdurdod yn y tystiolaethau hyny yn aml, trwy y rhwymedigaethau cryfaf a ddichon fod am grëaduriaid adgenedledig; sef awdurdod, iawnderau, a chariad ei Grëawdydd, yr hyn a ddylai gynnyrchu cyfatteboliaeth rhwng gras a doniau Duw, â'u harddangosiad yn ymarweddiad y credadyn.

yr

Fel hyn y dywedir yn Gal. 3. 22, 'Cydgauodd yr Ysgrythyr bob peth dan bechod ;' yr amcan yw, fel rhoddid y addewid trwy ffydd Iesu Grist i'r rhai sydd yn credu. Ac am ein Harglwydd bendigedig, am yr hwn y dywedir iddo ei ‘roddi ei hun dros ein pechodau,' Gal. 1. 4.; ymddengys mai yr amcan o hyny oedd, fel y'n gwaredai ni oddi wrth y byd drwg presenol, yn ol ewyllys

« FöregåendeFortsätt »