Sidor som bilder
PDF
ePub

PEDR FAWR.

yn

Yr oedd y dyn nodedig hwn yn berchen meddyl-ddrych cryfach na'r cyffredin o'i gyfoeswyr a theimlai yr anghenrheidrwydd o deithio drwy Ewropa gan ymofyn am y wybodaeth oedd mor ddymunol i bennadur amherodraeth fawr fel Rwssia; ond nid nghanol ei warchawdlu, neu yn nghwmni tywysogion gwychion ei lys yr ymdeithiai efe, gan y gwyddai yn dda na allai ddysgwyl cyrhaedd adnabyddiaeth drwyadl o gelfyddydau a defodau gwledydd eraill felly. Gan hyny efe a ymddiosgodd o'i gymeriad amherodrawl, ac a ymdeithiodd mewn dull gwladwr tlawd yn ymofyn gwaith. A chan iawn-farnu am ddefnyddioldeb morwriaeth at wasanaeth gwladwriaeth, efe a ymroddodd i ddysgu celfyddyd long-weithydd, a bu yn gweithio fel saer llongau yn Lloegr a'r Iseldir. Y lle y preswyliodd hwyaf oedd Saardam yn Ngogledd Holland, lle y trigai mewn bwthyn tlawd o ddwy ystafell, heb un gwahaniaeth rhyngddo a'i gyd-weithwyr tlodion. Yma y gwelid tywysog coronawg amherodraeth mor ehang a holl Ewropa, yn estyn ei aelodau ar dreigl-wely tlodaidd, gan dreulio gwyliadwriaethau y nos i adfyfyrio ar y sylwadau a wnaethai gyd a'i orchwyl yn y dydd. Yma y cyflawnai Pedr Michaeloff y gorchwylion iselaf, heb fod neb o'i gylch yn adnabod ei radd oruchel ef:-cyflawnai ei waith yn siriol, a derbyniai ei gyflog ar nos Sadwrn gyd ag ymddangosiad mor llawen a diolchgar a neb o'i gyd-weithwyr tlotaf. Yr oedd yn byw mor gymhedrol ac anfoethus, fel y gwasanaethai ei gyflog i wneuthur ei holl anghenion i fynu : ond yr oedd yn dra nwyd-wyllt, a mynych ei gwelwyd yn amrafaelio a'i gyd-weithwyr yr un modd yn hollol a phe buasent ei gydradd.

HANESYN AM MELANCTHON. Yr oedd y diwygwyr Almaenaidd yn deall perygl eu sefyllfa yn drwyadl amser eisteddfa Augsburg yn y flwyddyn 1530, etto yn llwyr ymddiried eu hachos i'w Tad nefol, gan fod yn hyderus y parai efe i bob peth gydweithio er daioni iddynt. Mae yr hanesyn canlynol yn dangos hyny yn amlwg iawn. Yr oedd Luther a Melancthon, a rhai duwinyddion eraill wedi ymgynnull i Torgau i ymgyng hori pa foddion a ddefnyddient yn eu cyfyngderau presennol. Wedi iddynt dreulio rhyw faint o amser mewn gweddi daer, galwodd rhyw un am Melancthon o'r ystafell: ac efe a adawai ei frodyr mewn dwfn bryder meddwl, yr hyn a welid yn amlwg yn ei wyneb-pryd; ond efe a ddychwelodd yn fuan a'i wedd mor sirol fel y rhyfeddodd Luther, ac y gofynodd iddo, pa beth a achlysurodd y fath gyfnewidiad yn ei ymddangosiad; yntau a attebodd, "Na ddigalonwn

fy mrodyr; canys gwelais y rhai ydynt yn nawdd ac amddiffyn i ni, y rhai a gair yn anorfodawl yn wyneb pob gelyn." Yna yr ymholai Luther yn awyddus, pwy oedd y rhyfelwyr hyny. Melancthon a attebodd, "Gwragedd a phlant ein henuriaid a'n dïaconiaid ydynt, ar weddiau rhai y bum yn gwrando yn awr; a'r cyfryw weddiau oeddynt, fel yr wyf yn dawel fy meddwl na fydd i Dduw eu troi ymaith heb eu gwrando; canys nid esgeulusodd Tad ein Harglwydd Iesu Grist gri y cyfryw rai erioed, ac ni a allwn ymddiried ynddo ef, na all efe eu hesgeuluso ychwaith."-Tra bu efe yn absennol o'r ystafell, efe a welsai wragedd henuriaid yr eglwysi yn ddyfal mewn gweddi tra oeddynt yn brysur gyda'u gofalon tenluaidd. Rhai o honynt oeddynt yn tywallt eu calonau at Dduw yn eu cyfyngder, tra yr oedd eu babanod wrth eu bronau, a'u plant bychain eraill oeddynt ychydig hŷn yn cydgyflwyno eu heirchion mabaidd at yr Arglwydd.

MANION AC OLION.

Teulu o gawri. Mae llythyr-geidwad dosparth Rhindwald, yn Switzerland, yn ddyn prydferth, oddeutu hanner can mlwydd oed: ac yn agos i saith droedfedd o daldra. Mae ei wraig uwch-law chwe troedfedd; ac o saith neu wyth o blant, mae y bechgyn uwch-law chwe troedfedd a chwe modfedd bob un; a'r merched oll ydynt uwch-law chwe troedfedd.

Y mae y marwolaethau blynyddol wedi lleihau un ran o dair yn y Deyrnas Gyfunol yn nghorph deugain mlynedd.

Mae yn Nghymru a Lloegr 72,176 o aelodau yn perthynu i'r Cymdeithasau Cymedroldeb.

Bu un cant ar ddeg a hanner o feth-daliadau yn Lloegr a Chymru rhwng Tach. 1832 a Thach. 1833.

Rhifedi y basdardiaid a anwyd yn Lloegr a Chymru yn y flwyddyn 1830 oedd, o wrrywaid 10,147, ac o fenywaid 9,892. Y cwbl yn ugain mil, tri deg a naw.

Alltudiwyd cymmaint a chwe mil o ddrwg weithredwyr i Botany Bay, o fewn y flwydd.

yn

ddiweddaf.

masnachol yn gorwedd rhwng y Downs a Mae yn agos i ddeuddeg cant o lestri Portsmouth, wedi eu niweidio gan yr ystormydd diweddar.

Dywedir fod gan y Cadfridog Llander bum mil a deugain o wyr arfog at ei wasanaeth, a dywedai yn ei apeliad at frenhines Hispaen am fwy o ryddid, os cydsyniai a dymuniadau Catalonia, Barcelona, a'r taleithiau rhyddgarawl eraill, ei fod ef yn meddu gallu a'r ewyllys i lwyr faeddu y Carliaid mewn mis o amser.

[blocks in formation]

DARLITH AR LESAWL EFFEITHIAU Y BIBL GYMDEITHAS FRYTANAIDD A THRAMOR.

[ocr errors]

Mae

[ocr errors]

ER mòr enwog a defnyddiol yr ymddengys iadau cryfaf o anmherffeithrwydd. llawer o'r cymdeithasau a sefydlwyd ac a pwysfawrogrwydd cynnwysiad y llyfr bensefydlir yn ngwahanol barthau Ewropa, etto, digaid hwn, gwerthfawrogrwydd ei addysgpe pwysid hwynt yn nglorianau didueddiadau, gogoneddusrwydd y rhai a gymmerrwydd a chyfiawnder, anghenrhaid fyddai ant eu rheoleiddio ganddo, ynghyd a'r anrhoddi y flaenoriaeth i'r Bibl Gymdeithas ffaeledigrwydd sydd yn argraphedig ar bob' Frytanaidd a Thramor. rhan o hóno, yn dangos i ni oll yn amlwg, Er cymmaint yw llesoldeb y "Gymdeithas ei deilyngdod o gael ei gyfenwi yn 'Ddwyfol er taenu gwybodaeth gristionogol," ac er Ddatguddiad,' a'i fod yn rhyglyddu, yn y cymmaint o ddaioni a gyfranir o'i llaw hael- lledaeniad o hóno, fanylaidd sylw a gwresog ionus, etto, nid yw y cyfan mewn cydmar- dderbyniad a chefnogiad pawb creaduriaid iaeth i eiddo y Gymdeithas Fiblaidd, ond rhesymol. Er fod tywysog llywodraeth yr megis y tamaid lleiaf a ellir ei gynnyg i'r awyr wedi, ac yn anfon allan ei weinidogion newynog, neu y goleuni lleiaf a ellir ei roddi deistaidd i ymdrechu gwadu ei ddwyfoldeb— i'r tywyll. Ond am y Gymdeithas hon, y er iddo anfon ei genhadon atheistaidd i ym-· mae ei gwrthddrych, sef y Bibl, yn "wledd egnio gwrthbrofi bodolaeth yr Awdwr o hóno o basgedigion breision ac o loyw-win pur- -er annog y twyllwr Mahometanaidd i lunio edig" yr hon wledd a amcenir ei rhoddi yr Alcoran melldigaid, ac anfon gau-broganddi o flaen holl afradloniaid newynllyd ffwydi i ddysgu felly yn erbyn y gwirionedd, y bydysawd. Mae yn hon "Haul y cyf. etto, megis nad yw ymddangosiad cymmylau iawnder gyda meddyginiaeth yn ei esgyll," ar yr wybren yn peri un math o ddifrïwch yn tywynu yn ei belyderau disglaeriol, heb un i'r haul, felly ni phery holl ysgrifeniadau cwmmwl i attal ei lewyrch, nes yw miloedd deistaidd, nac atheistaidd y byd, rhai sydd o rai ag oedd yn eistedd mewn tywyllwch fel cymmylau caddugol, byth un gradd o wedi dyfod i weled goleuni mawr; ïe, y mae ddifrïwch i Haul y cyfiawnder; ond, dyei "ryfeddol oleuni ef" wedi cyfodi ar fyrdd noetha ei oleuni ysplenydd ef warth eu a mwy, o rai oedd yn eistedd yn dawel "yn noethder hwy, nes y gorfydd iddynt gilio mro a chysgod angau." yn fuan i'w cell uffernol, heb feiddio gwneuthur eu hymddangosiad mwy.

Nid yw holl ysgrifeniadau goreu dynion, o'u cydmaru â'r Bibl, ond megis yr amlygK

Pwy all feddwl am fynydyn am yr amser

66

wyneb gyda hi: ni edwyn hon y cyfoethog o flaen y tlawd, na'r tlawd o flaen y cyfoethog; nid yw hon yn edrych ar liw na llun, iaith na chenedl, ag sydd dan yr holl nefoedd! Y mae ëangrwydd terfynau ei gweithrediad. au yr un ag ewyllys ei Hawdwr, "Yr hwn sydd yn ewyllysio fod pob dyn yn gadwedig, a'u dyfod i wybodaeth y gwirionedd."

y bu Brydain Fawr fel yn athrofa i fyfyrio ynfydrwydd, am y pryd yr oedd galluoedd y tywyllwch wedi lledu eu hadenydd trosti, am yr adeg yr oedd byddinoedd y cedyrn fel yn chwifio eu banerau gormeslyd yn yr awyr, a chyffredinolrwydd ei thrigolion yn rhwym ganddynt wrth eu hewyllys,-meddaf, pwy all feddwl am yr amseroedd hyny, a'u cyferbynu â'r olygfa sydd arni yn awr, heb deimlo diolchgarwch yn ei fynwes, a llawenydd yn ei galon, wrth feddwl am y dydd y dywedodd y Goruchaf wrth y Gymdeithas hon, BYDDED, ac am yr awr y neidiodd hi i fodolaeth fel brenines wedi ei harfogi â'r arfau ysbrydol, am ei gwroldeb yn gwynebu ar alluoedd y tywyllwch gyda chleddyf yr ysbryd yr hwn yw gair Duw," ac am y buddugoliaethau anghydmarol a gafodd hi arnynt? Yn awr gwelir cyffredinolrwydd ei thrigolion, yn lle bod yn ymhyfrydu mewn dychymygion ofer-goelus a gwrachïaidd chwedlau gwirionllyd, yn ymgrynhoi, yn finteiodd, o dan weinidogaeth "yr impiedig air," ac yn dwyn eu plant i fynu yn ei addysg a'i athrawiaeth iachusol, nes y gellir dywedyd fod miloedd o honynt ag oedd fel yn gaffaeliaid gan y cadarn, wedi eu hennill trwy "air y gwirionedd" oddi dan iau caethiwed, i ryddid gogoneddus yr efengyl :-ïe, fod llawer o rai ag oedd a'u "serch arnynt eu hunain, yn ariangar, yn ymffrostwyr, yn feilchion, yn gablwyr, yn anufuddion i rieni, yn anniolchgar, yn annuwioi, yn angharedig, yn tori cyfammod, yn enllibaidd, yn anghymesur, yn anfwyn, yn ddiserch i'r rhai da, yn fradwyr, yn waedwyllt, ac yn chwyddedig,— | wedi eu dwyn yn ddarostyngedig i'r tywysogaethau a'r awdurdodau, yn barod i bob gweithred dda, i fod heb gablu neb, yn anymladdgar, yn dirion, gan ddangos pob addfwynder tuag at bob dyn." Gall Brydain Fawr yn bresenol, mewn canlyniad i ledaeniad y Bibl, dderchafu ei llef gyda llawenydd, a dywedyd, "Lle yr oeddwn i gynt yn ddall, yr wyf yn awr yn gweled!" Ai y Prydeiniaid yn unig ydynt wrthddrychau nawdd y Gymdeithas hon? Nage; canys nid oes derbynau tywyll y ddaear, yn diflanu o'i blaen. Y

|

Ni ddarfu meddwl am yr anhawsderau oedd ganddi i dori trwyddynt ei hattal rhag anfon "yr efengyl hon am y deyrnas," i barthau tywyllaf y ddaear. Er mòr gynddeiriawg yr ymgynhyrfynt tonnau y weilgi cyffröwyllt-er mòr ystormaidd y chwythynt gorawelon y rhuthr-wynt-er poethed ac afiachused gwledydd canol-gylch y byd-er oered oeddynt ynysoedd Greenland-er pelled ᎩᎳ China ëang-er amled yr ieithoedd yr oedd yn anghenrheidiol cyfieithu y Gyfrol Sanctaidd iddynt-er a awch-lymodd Voltaire a Payne ar eu cleddyfau deistaidd, er a drochodd Taylor, Carlile ac eraill ar eu saethau anffyddiawl yn ngwenwyn aspïaidd eu cenfigen gwrth-fiblaidd, ïe, er y gwyddai y Gymdeithas glodfawreddus hon y byddynt Pabyddiaeth, Eilunaddoliaeth, Mahometaniaeth ac Iuddewiaeth y byd, fel byddinoedd cyngrheiriol yn ei herbyn-etto, er hyn oll a'r cyffelyb, mae yr "ymadrodd am y groes, efengyl y tangnefedd," wedi ei hanfon ganddi, tan nawdd yr hwn sydd yn fwy na phawb ac yn meddu llywodraeth ar bob peth, i ynysoedd ag oedd er oesoedd y cynfyd mewn tywyllwch, ac i wledydd paganaidd tra phellenig. Y mae yn rhyfedd genyf feddwl am gyflymder ei lledaeniad, y gwresawg dderbyniad roddir iddi, a'r effeithiau daionus sydd yn ei dilyn yn y parthau hyny lle y cyrhaeddodd ei pheraidd sain. Yn awr gwelir llawer o'r Iuddewon y bu hi iddynt yn dramgwydd, yn ei chofleidio-llawer o'r Groegiaid a'i cyfrifodd hi yn ffolineb, yn ei mynwesu fel doethineb Duw-llawer o ynysoedd cyfain wedi ymddarostwng tàn ei dysgeidiaeth-llawer o demlau yr eilunod yn weigion-a llawer o arferiadau creulon congl.

ei ddeiliaid, nid trwy gymmell, ond o bar. odrwydd meddwl, yn penderfynu “ derbyn y gair yn y cariad o hono, nid fel gair dyn ond fel y mae yn wir yn air Duw ;" ac o un. llais am gyssegru teml fawr Meca, lle mae corph Mahomet yn gorphwys, i fod yn athrofa i fagu a meithrin eu plant anwaraidd yn mhrif bynciau y grefydd Gristionogol,

yn Newton fel seryddion; yn Locke, fel
rhesymwyr; yn Luther, fel diwygwyr, ac yn,
Whitfield, Wesley neu Beveridge, fel preg-
ethwyr. Gan hyny, buan y gwawrio y
"Y bwrir, teflir i'r tân,

O'u cwr, holl Fibl Alcoran ;-
(ac)

Urddas hoff-addas y ffydd

Dyfo tan aden Dofydd!!"

borau

mae y mamau annaturiol ag oedd unwaith yn meiddio aberthu ffrwyth eu bru, sef, eu babanod, yn ebyrth gwirfoddol i'w duwiau gau, yn dyfod yn awr i weled eu hynfydrwydd; y mae yr arferiad barbaraidd hyny o losgi y gwragedd gweddwon gyd â chyrph marwol eu gwyr, yn cael ei ddileu; y mae y rhai oedd unwaith yn addoli llu y nefoedd, megis yr haul, y lloer, &c., ynghyd â gwaithnes mewn amser y gwelir ugeiniau o honynt eu dwylaw eu hunain, yn dyfod i ganfod nas gall y cyfan weini un cysur nac estyn braich o gynnorthwy iddynt mewn un adwy gyfyng! Pa galon adamantaidd na thoddai, a pha lygaid na lanwent â dagrau, wrth feddwl am y miloedd hyny a daflasant eu hunain dan olwynion y Juggernaut, er gwae iddynt gyrph ac eneidiau am byth!! Ond y mae genym achos llawenhau ar yr un pryd wrth feddwl fod yr ysgrythyrau dwyfol yn y lledaeniad a'r pregethiad o honynt, wedi ac yn bod fel cynnifer o glöau annattodadwy ar ei olwynion, nes ydynt ei ddeiliaid braidd, yn y dyddiau hafaild hyn, yn methu ei symud! Yn wir, er nad wyf broffwyd, na mab i broffwyd, meiddiaf ddywedyd y diffydd mynydd Etna a Vesuvius, ïe, y cyll yr | haul ei lewyrch, cyn y cyll yr Ysgrythyrau Sanctaidd, yn gyd-blethol â nerth cadernid en Hawdwr, atteb y dyben o gladdu yr eilun hwnw yn nyfnder y môr, neu ynte, i'w falurio yn fanach nag y maluriodd ef un corph a fu o dano erioed! Gwelir llawer yn bresenol, o'r Mahometaniaid fu unwaith yn caru yr Alcoran mor anwyl a chanwyll eu llygaid, yn dyfod i'w ffieiddio! Gan hyny, pwy a ŵyr pa mór fuan y dichon y dydd wawrio, pryd y geilw Ymerawdwr Twrci bennaethiaid ei bobl ynghyd, ac y cyd-unant i gladdu yr Alcoran yn mhridd anghof, ac i draddodi areithiau hyawdl a sylweddol yn ei anghladd, er dangos ei dwyll a'r felldith a ddygodd efe ar eu gwlad, ynghyd âg ardderchogrwydd y Beibl, yr anhebgorol anghenrheidrwydd o'i gael, a'r dedwyddwch amserol a thragywyddol sydd yn nglŷn a gwneuthur. derbyniad o hóno, a byw yn ol ei reolau euraidd, nes y bydd cyffredinolrwydd a llewyrch i'w llwybr," ydyw yr achos fod y

Y mae yn llawen genyf feddwl fod y Gymdeithas anrhydeddus hon, yn prysúr gloddio hyd seiliau llywodraeth y Pab Rhufeinaidd, bod ei orsedd orthrymus yn cael ei hysgwyd ganddi megis deilen, a bod gobaith i'w ddeiliaid tywyll ddyfod i wisgo arfau y goleuni, i rodio yn y golenni, fel y byddont blant y goleuni. Ië, y mae yn llawen geny f feddwl fod haul y cyfiawnder yn parhau, i dderchafu yn uwch i'r lan yn eu plith, a'u bod yn dyfod i weled nad oes enw arall wedi ei osod yn mhlith dynion, trwy yr hwn y mae yn rhaid iddynt fod yn gadwedig," ond enw yr Emmanuel Duw-dyn. Buan y byddo holl ddeiliaid y Bwystfil hwnw yn gwrthod cario ei nôd ar eu talcenau, ac y byddo cadair Pedr yn Rhufain heb un gormes deyrn yn eistedd arni.

66

Mae y Gymdeithas hon fel rhyw aradr euraidd yn aredig y byd ac yn hau had y gwirionedd ynddo, nes ydynt y muriau ced. yrn ag oeddynt rhwng miloedd o'i bres. wylwyr a bod mewn undeb â'u gilydd, yn syrthio o'u blaenau fel Dagon gynt o flaen yr Arch; modd y gwelir undeb diffuant yn teyrnasu yn eu mysg, a brawdgarwch fel cadwaen risialaidd yn cadw yr undeb hwnw yn nghwlwm tangnefedd. Diffyg gwneuth ur derbyniad o'r Bibl fel "llusern i'w traed

fath ryfeloedd a son am ryfeloedd yn mhlith | helaethiant mawr o wybodaeth a goleuni, eraill. Pe y llyfr hwn gaffai lwybr rhydd megis y glasiad cyn dydd. Gan hyny, i'w mynwesau, buan y curent eu cleddyfau onid yw meddwl am ei heffeithiau daionus yn sychau, a'u gwaew-ffyn yn bladuriau, y | fel hyn ar y byd, ac am y tyrfaoedd dirifedi rhoddid terfyn ár genedl yn cyfodi yn erbyn sydd etto yn cael eu dyfetha o eisiau gwycenedl, ac ar ddysgu rhyfel mwyach; ond bodaeth, yn galw yn uchel arnom, fel rhai dywedent, "Deuwn a rhodiwn yn ngoleuni sydd yn cydnabod mawr werth eneidiau yr Arglwydd." anfarwol, i sefyll yn wrol o'i phlaid, ac i beidio llesgâu yn ein hysbrydoedd gyd â'r gwaith mawr ei bwys, ond bod yn wresawg a diflin yn dwyn mawr zêl drosto, a chyd-roddi yn ewyllysgar tuag at ei gynnal, rhag ein melldithier fel Meros, am beidio dyfod i fynu yn gynnorthwy i Arglwydd y lluoedd yn erbyn byddinoedd y cedyrn.

Pa le bynag y mae ymddifadrwydd o'r Bibl, nid yw y lle hwn ond pentwr cäoslyd, coelgrefyddol ac afreolaidd. Ond i'r graddau ei lledaenwyd ac yr ymostyngwyd iddo y gwelir y byd wedi ei ddwyn i rëoleiddrwydd : y gwelir "rheswm yn cael yr oruchafiaeth ar ragfarn; goddefiant ar ddall-bleidiad ac erledigaeth; gwir-grefydd ar y rhith ffugiol o honi; ysbryd addfwyn gwir Gristionogrwydd ar y zêl ffyrnig hono a wnaeth fwy o niwed i grefydd na holl ymdrechiadau annghredinwyr yn erbyn y gwirionedd, o Julian ygwrthgiliwr hyd Voltaire, Hume a Gibbon. Mae lledaeniad yr ysgrythyrau yn waith ag sydd yn rhoddi bri ar y sefyllfaoedd uchaf, ac yn cyssegru y swyddau mwyaf pwysig, ïe, yn rhoddi yr addurn mwyaf ar holl berthynasau bywyd. Yma y cyferfydd holl nerth y duwiol a'r doeth yn erbyn gweithredoedd anffrwythlon y tywyllwch, ac y gwelir y llwydd mwyaf ar eu hymdrechiadau. Er mor eilun-addolgar ydoedd ac ydyw Ceylon, etto, y mae miloedd o'i thrigolion, trwy feddu gair y bywyd, wedi eu hennill oddi wrth eu hofer ymarweddiad; er y cymmylau tewion o dywyllwch Aiphtaidd oeddynt ac ydynt yn grogedig uwch ben Madagascar ofergoelus, y maent yn cael eu chwalu gan yr haul hwn; er cryfed oeddynt ac ydynt muriau anwybodaeth China, er cadarned ydynt castellydd ei rhagfarn, y maent yn cael eu malurio gan y magnelau Biblaidd ! Gan fod mebyd y Gymdeithas

Meiddiaf ddywedyd pe byddynt pawb o drigolion y byd Cristionogol yn gwneuthur a allent tuag at ddwyn traul y Cymdeithasau Biblaidd, na byddynt y dyddiau yn nepell, pryd na byddai rhaid i "frawd ddweyd wrth frawd, adnebydd yr Arglwydd, ond y byddai y ddaear yn llawn o wybodaeth, megis y mae y dyfroedd yn toi y mor;" ïe, pryd y byddai y "seithfed angel yn udganu a llefau uchel yn y nef yn dywedyd, aeth teyrnasoedd y byd yn eiddo yr Arglwydd a'i Grist ef: ac efe a deyrnasa yn oes oesoedd."

Y mae yn dda genyf feddwl fod breninoedd, esgobion, pendefigion, rhyfelwyr, ac uchel swyddogion gwladwriaethol, wedi ymuno gyd a'r gwahanol enwadau crefyddol yn y gynghreiriaeth sanctaidd hon. A hyderaf na bydd i un enaid, wedi clywed fel hyn am lesawl effeithiau y Gymdeithas Fiblaidd, ommedd, o hyn allan, roddi ei ysgwydd dan yr Arch nefolaidd, a'i ddwylaw ar aradr yr efengyl, ac y bydd o hadlingau y gweddwon tlawd, hyd bunnoedd y cyfoethogion, yn cael eu bwrw i'r drysorfa i'r dyben i'w lledaenu yn mhlith rhai sydd yn ymddifad o honi.

hon mor gadarn, beth nis gellir ddisgwyl yn | “Yn wir gwobrwyir ddydd brawd—ie, pob un nghyflawnder nerth ei gwrolaeth ? Gan

fod ei gwawr wedi tori gyda y fath dywyniad, beth fydd dysglaerdeb eu llewyrch pan oleuo y dydd? Diammeu fod ymdrechiadau y Bibl Gymdeithas yn rhagfynegiad o ryw

Pawb honoch fu barawd
A ffyddlon weision isawd
Weini at lês eneidiau tlawd."

"Am hyny, fy mrodyr anwyl, byddwch sicr a diymmod ac helaethion yn ngwaith yr

« FöregåendeFortsätt »